Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Sbarc

Hoffai Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru gyflwyno ei ffrind newydd, sef Sbarc!

Bydd Sbarc yn helpu i rannu negeseuon â phlant ifanc am y peryglon o chwarae â thân a sut y mae cadw'n ddiogel yn eich cartref ac yn eich cymuned.

Yn ystod haf 2019, daeth y tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru ynghyd i gynllunio cymeriad a fyddai’n helpu i rannu'r negeseuon o ran Diogelwch Cymunedol y Gwasanaethau Tân ac Achub. Y nod oedd datblygu cymeriad a fyddai'n dal dychymyg plant ac aelodau o'r cyhoedd, ac yn eu haddysgu am negeseuon allweddol yn ymwneud ag Atal, Canfod a Dianc, a Lleihau Tanau Bwriadol.

Enwyd y cymeriad trwy ymgynghori â'r cyhoedd mewn amryw o ddigwyddiadau cyhoeddus yn ystod 2019, lle gofynnwyd i dros 250 o blant ddewis o blith yr enwau canlynol, sef Fflach, Fflam neu Sbarc. Roedd “Sbarc” yn ffefryn amlwg gyda dros 142 o bleidleisiau.

Dywedodd Paul Scott, Uwch Reolwr Dioglewch Tân: “Bydd Sbarc yn ymddangos ledled ein deunydd addysg a marchnata a bydd i'w weld mewn amryw o ddigwyddiadau ac ymgyrchoedd gan ddarparu cyngor ar ddiogelwch. Rydym yn gobeithio y bydd Sbarc yn helpu plant a'u rhieni trwy ein cynorthwyo i hyrwyddo'r Cod Tân Gwyllt, Diogelwch yn y Cartref, Diogelwch ar y Ffyrdd, Diogelwch Dŵr, a llawer mwy.”

Cliciwch isod i lawrthlwytho gweithgareddau Sbarc.

Chwilair

Sut i olchi eich dwylo

Enfys Sbarc

Chwilair Golchi Dwylo

Chwilair Diogelwch Dŵr

Taflen Liwio Sbarc 

Drysfa Sbarc

Taflen Liwio Sbarc

Taflen Waith Diogelwch Trydan

Chwilair Diogelwch Trydan Sbarc

Chwilair Sbarc Cadw'n Ddiogel yn y Cartref

Byddwch yn S.M.A.R.T ar-lein

Taflen Liwio

Cod Tân Gwyllt Sbarc

Taflen liwio Nadolig Sbarc

Chwilair Nadolig Sbarc

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen