Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ymyraethau

System arunig Ultraguard. Dyfais sy’n diffodd tanau gyda system chwistrellu ac sydd wedi cael ei dylunio i amddiffyn ystafell unigol. Fe’i gweithredir gan ddau larwm mwg. Mae’r system yn gallu chwistrellu 100 litr o ddwr i ystafell mewn 10 munud.

Ynysydd Popty Stoveguard. Dyfais clyfar ar gyfer hobiau/poptai trydan sydd yn defnyddio synhwyrydd i sganio’r hob a sydd yn ynysu’r pwer cyn i dân gynnau os canfyddir bod ‘bwyd/olew poeth’ wedi cael ei adael ar yr hob.

Pecynnau gwrthdan ar gyfer gwelyau i leihau’r risg o dân ar gyfer pobl sydd yn ysmygu yn y gwely. (Mae blancedi maint sengl, dwbl a mawr ar gael).

Blancedi gwrthdan i leihau’r risg o dân i bobl sydd yn ysmygu’n ddiofal ar ddodrefn medal e.e. cadair neu soffa.

Bin sbwriel sydd wedi cael ei ddylunio i amddifadu tân o ocsigen ac felly os bydd tân yn cynnau yn y bin bydd yn cael ei ddiffodd yn syth.

‘Ffedogau’ gwrthdan i ysmygwyr.

Blychau llwch gyda chaead sydd yn agor a chau drwy bwyso botwm.

Synwyryddion Mwg, o leiaf un ym mhob eiddo domestig.

Synwyryddion mwg i bobl trwm eu clyw. (Maent wedi eu cysylltu i’r prif gyflenwad trydan ac mae ganddynt fatri wrth gefn y mae modd ei wefru dro ar ôl tro. Maent yn defnyddio strôb dwysedd uchel a phad sy’n cael ei roi o dan y glustog i rybuddio’r defnyddiwr o dân pan fydd yn y gwely).

Blwch llythyrau gyda chlo ar y fflap i atal tanau bwriadol. Mae modd ei gloi â llaw i atal eitemau ar dân rhag cael eu rhoi drwy’r fflap.

Blwch llythyrau allanol os nad oes modd gosod clo ar y fflap ac os nad oes modd dod o hyd i ddatrysiad arall.

Lidiau estyn trydan.

Gellir ystyried ymyraethau pwrpasol eraill i gadw eitemau hylosg oddi wrth ffynonellau tanio.

Ffoniwch 0800 169 1234 neu e-bostiwch cfs@tangogleddcymru.llyw.cymru am fwy o wybodaeth.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen