Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Eich Cyfrifoldebau

Eich Cyfrifoldebau

Newidiodd cyfraith diogelwch tân ym mis Hydref 2006 gyda chyflwyniad y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 oedd yn cymryd lle dros 70 darn o gyfraith diogelwch tân. Mae'r gofyniad i fusnesau gael tystysgrifau tân wedi cael ei ddiddymu ac nid ydynt yn ddilys mwyach.

Mae'r Gorchymyn yn gymwys i bob eiddo annomestig yn Lloegr a Chymru, gan gynnwys y rhannau cyffredin o fflatiau a thai amlbreswyliaeth.

Mae'r gyfraith yn gymwys os ydych chi'n:

  • Gyfrifol am safleoedd busnes
  • Yn gyflogwyr neu'n hunan gyflogedig gyda safle busnes
  • Yn gyfrifol am ddarn o adeilad lle mae'r rhan yn cael ei ddefnyddio'n ar gyfer pwrpasau busnes yn unig
  • Yn sefydliad elusen neu wirfoddol
  • Yn gontractwr gyda chyfradd o reolaeth dros y safle
  • Yn darparu llety i westeion sy'n talu
  • Meithrinfa ddydd fechan

O dan y Gorchymyn, rhaid i'r 'person cyfrifol' (y cyflogwr, preswylydd neu berchennog) wneud asesiad risg diogelwch tân 'addas a digonol' a gweithredu a chynnal cynllun rheoli tân. Mae rhagor o wybodaeth ar beth sydd angen i chi wneud wrth wneud asesiad risg ar gael yn yr adran 'Proses Asesu Risg'.

Os, wedi cwblhau asesiad risg diogelwch tân, eich bod angen rhagor o gyngor ymarferol neu wybodaeth, cysylltwch gyda'r Tîm Addysg i Fusnesau.

Efallai byddwch chi'n teimlo'n fwy cyfforddus cyflogi arbenigwr diogelwch tân i'ch helpu. Mae unigolion a chwmnïau sy'n darparu gwasanaethau diogelwch tân wedi eu rhestru mewn cyfeirlyfrau lleol. Am ragor o wybodaeth, ewch i'r adran ' Dewis Aseswr Risg'.

Cyfrifoldebau Diogelwch Tân o dan Adran 156 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022: canllawiau

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen