Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Côd Rheolyddion 2014

Côd Rheolyddion 2014

Sut rydym yn cwrdd â gofynion Côd Rheolyddion 2014

Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i leihau'r beichiau rheoleiddio a chefnogi twf busnesau sy'n cydymffurfio, trwy ddatblygu cydberthynas agored ac adeiladol rhwng y rheolyddion a'r rhai maent yn eu rheoleiddio.

Mae'r Côd Rheolyddion yn Gôd Ymarfer statudol, a fwriedir i annog rheolyddion i gyflawni eu hamcanion mewn modd sy'n lleihau'r beichiau ar fusnesau. Pwrpas y Côd yw mewnosod ymagwedd seiliedig ar risg, gyfatebol, targedig a hyblyg at archwilio a gorfodi rheoleiddio ymhlith y rheolyddion mae'n gymwys iddynt. Bydd yr ymagwedd hon yn sicrhau bod rheolyddion yn effeithlon ac yn effeithiol yn eu gwaith, heb osod beichiau diangen ar y rhai maent yn eu rheoleiddio.  Mae'r Côd hwn yn seiliedig ar y saith egwyddor archwilio a gorfodi a nodwyd yn adroddiad Philip Hampton " Reducing administrative burdens: effective inspection and enforcement" (2005).

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymrwymedig i reoleiddio gwell a doethach, sy'n hybu twf busnesau ac eisoes mae gan y Gwasanaeth bolisïau, gweithdrefnau a mecanweithiau mewn lle i sicrhau ein bod yn cyflawni ein rhwymedigaethau rheoleiddio, yn cynnwys gorfodaeth gadarn ond teg, yn unol ag egwyddorion rheoleiddio da.

 

Rydym yn cydymffurfio â phum egwyddor rheoleiddio da h.y. cymesuredd, atebolrwydd, cysondeb, eglurder a thargedu, sydd wedi eu cynnwys yn ein Polisi Gorfodaeth cyfredol.  

 

Ein polisïau allweddol sy'n ein galluogi i gyflawni ein rhwymedigaethau rheoleiddio yw ein:

 

Polisi Gorfodaeth

Gweithdrefn Canmol a Chwyno

 

Caiff y polisïau allweddol yma'u hategu gan bolisïau eraill, canllawiau manwl a gweithdrefnau gweithredol.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen