Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Adalw Cynnyrch Whirlpool

Rhwng 2014 a 2018 fe wnaeth Whirlpool alw nifer o beiriannau golchi Hotpoint ac Indesit yn ôl. Mae’r peiriannau golchi yn peri risg tân o ganlyniad i nam gyda’u cloeon. Nid yw hyn yn effeithio ar beiriannau Whirlpool eraill.

Os ydi’ch peiriant golchi chi wedi cael ei effeithio yna fe allwch chi gael trwsio’ch peiriant neu gael peiriant newydd yn ei le, hyd yn oed os gwnaethoch chi brynu’r peiriant yn ail law. 

 

Sut i wirio’ch peiriant golchi

Rhaid i chi ddod o hyd i rif model a rhif cyfresol eich peiriant – mae modd dod o hyd i’r rhifau hyn yng nghilfach drws y peiriant fel yn y llun isod.

 

Mae’r wybodaeth hefyd ar gael ar gefn y peiriant os ydych chi’n gallu mynd ato.

 

Unwaith yr ydych chi wedi dod o hyd i’r wybodaeth cysylltwch gyda Whirlpool un ai ar-lein https://washingmachinerecall.whirlpool.co.uk/ neu trwy alw’r llinell gymorth, sydd ar agor bob dydd ar 0800 316 1442.

Os ydych chi’n cael trafferth dod o hyd i rif eich peiriant ffoniwch y llinell gymorth ar 0800 316 1442.

Caiff eich peiriant ei gofrestru gyda Whirlpool a chewch gadarnhad os ydi’ch peiriant ymhlith y rhai sydd wedi eu heffeithio.

Os ydi’ch peiriant wedi cael ei alw’n ôl bydd Whirlpool yn cysylltu gyda chi i drefnu i drwsio’r peiriant neu anfon peiriant newydd i chi.

 

Rydym ni’n cynghori pobl i dynnu plwg y peiriant a rhoi’r gorau i’w ddefnyddio os ydi’r peiriant wedi cael ei alw’n ôl.

Rydym ni hefyd yn annog pobl i helpu ffrindiau a pherthnasau os ydynt angen help i wirio’u peiriant a hysbysu Whirlpool.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen