Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cyffuriau ac Alcohol

Os ydych chi wedi bod yn yfed neu gymryd cyffuriau yna rydych chi mewn mwy o berygl o beidio â deffro os bydd tân yn cynnau yn eich cartref, yn enwedig os nad oes gennych chi larwm mwg gweithredol.

Y ffeithiau

  • Pob blwyddyn cawn ein galw at nifer uchel o danau lle mae pobl wedi bod yn yfed neu gymryd cyffuriau. Mae rhai o’r digwyddiadau mwyaf difrifol y cawn ein galw atynt fel arfer wedi eu hachosi gan bobl sydd wedi bod yn yfed neu gymryd cyffuriau ac yna syrthio i gysgu wrth goginio neu ysmygu.
  • Mae camddefnyddio alcohol a chyffuriau ymhlith un o brif achosion damweiniau ac anafiadau damweiniol.
  • Mae presenoldeb alcohol a chyffuriau yn y corff yn cynyddu difrifoldeb yr anafiadau a achosir o ganlyniad i ddamweiniau.
  • Dengys ymchwil bod dros 50% o’r marwolaethau tân a gafwyd mewn cartrefi yn y DU yn gysylltiedig ag alcohol neu gyffuriau.
  • Rydych chi’n fwy agored i niwed os ydych chi dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

Dydi yfed a choginio ddim yn gyfuniad doeth

Os ydych chi’n feddw, mae’n bosib na fyddwch yn deffro os bydd tân, yn enwedig os nad oes gennych chi larwm mwg gweithredol.

Fe all bod yn feddw eich gwneud chi’n gysglyd a dryslyd, sy’n golygu y byddwch chi’n llai effro i arwyddion tân. Os gwnewch chi ddarganfod tân, fe all yr alcohol neu gyffuriau eich drysu’n waeth, a’i gwneud hi’n anoddach i chi ddianc.

Yn aml iawn mae’n diffoddwyr tân yn cael eu galw i gartrefi lle mae rhywun wedi dechrau coginio ar ôl noson allan ac wedi rhoi’r tŷ ar dân. Rydym hefyd wedi cael ein galw at nifer o danau lle mae rhywun wedi syrthio i gysgu gyda sigarét yn ei law a deffro i ddarganfod tân yn eu cartref.

Yn y rhan fwyaf o achosion difrifol, hyn yn oed ar ôl i’r larwm mwg ganu ac i ddiffoddwyr tân gael eu galw, fe all alcohol a chyffuriau eich atal rhad dod allan yn ddiogel cyn i ni gyrraedd.  Fe allwch golli ymwybyddiaeth ar ôl anadlu mwg ac fe all hyn achosi anafiadau difrifol neu’ch lladd.  

Beth ddylech chi ei wneud

  • Peidiwch ag yfed na chymryd cyffuriau wrth goginio – fe allwch chi syrthio i gysgu ac achosi tân difrifol.
  • Prynwch tecawê ar y ffordd adref o’r dafarn, yn hytrach na choginio ar ôl cyrraedd adref.
  • Gwnewch yn siŵr bod sigaréts wedi eu diffodd yn iawn cyn i chi fynd i gysgu. Os oes raid i chi ysmygu, ystyriwch wneud hynny tu allan.
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych chi larymau mwg gweithredol yn yr eiddo gan y bydd hyn yn cynyddu’ch siawns o ddianc o dân yn eich cartref.
  • Profwch eich larymau mwg bob wythnos. Mae larymau mwg gweithredol yn achub bywydau. Ymunwch â ni ar Facebook, dilynwch #testittuesday ar Twitter, neu cofrestrwch i dderbyn rhybuddion e-bost gennym ni bob wythnos.
  • Peidiwch ag yfed cymaint fel nad ydych chi’n gallu edrych ar ôl eich hun, eich teulu neu’ch cartref – ac mae’r un peth yn wir am gymryd cyffuriau.
  • Peidiwch ag yfed neu gymryd cyffuriau ac yna ceisio gyrru – a chymerwch bwyll wrth gerdded adref hefyd.

Byddwch yn ymwybodol o ganlyniadau corfforol difrifol camddefnyddio alcohol a chyffuriau;

  • Fe all effeithio ar eich gallu i atal brifo’ch hun os oes gennych chi broblemau eraill.    
  • Eich gwneud yn llai tebygol o atal eich hun rhag brifo eraill
  • Eich gwneud yn fwy tebygol o gael cyflwr iechyd difrifol hir dymor
  • Eich gwneud yn fwy agored i ymddygiad gwrthgymdeithasol a datblygu problemau iechyd meddwl.

Sut allwn ni eich helpu chi

Rydym ni’n gweithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau eraill i adnabod pobl fregus sydd mewn perygl o achosi tanau damweiniol yn y cartref oherwydd eu bod yn camddefnyddio alcohol neu gyffuriau.

Fe allwn ni ymweld â phobl yn y cartref yn gyfrinachol a thrafod y gwasanaethau sydd ar gael i’w diogelu’n well rhag tân. Gallwn hefyd eu cyfeirio at ein partneriaid i weld a allant hwy eu helpu.

Y peth pwysicaf y gallwn ni ei wneud fel Gwasanaeth ydi gwneud yn siŵr bod gan bobl larymau mwg gweithredol yn y cartref. Rydym ni’n gosod larymau mwg yn rhad ac am ddim ac yn darparu cyngor ac ymyraethau a all achub bywydau pobl.

Mae larymau mwg yn rhoi rhybudd cynnar o dân ac yn rhoi cyfle i bobl fynd allan, er y bydd hi’n anoddach i bobl ymateb mewn argyfwng os ydyn nhw wedi bod yn yfed neu gymryd cyffuriau.

Os ydych chi’n poeni bod ffrind neu aelod o’r teulu’n yfed neu gymryd cyffuriau cewch gyngor pellach. Os ydych chi’n meddwl y gallant elwa o gael gosod larwm mwg gennym ni yna cysylltwch â ni i drefnu archwiliad diogel ac iach ar eu rhan.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen