Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Monitro Perfformiad Ebrill 2021 – Mehefin 2021

PWRPAS YR ADRODDIAD

1 Darparu gwybodaeth am weithgarwch y Gwasanaeth o ran digwyddiadau yn chwarter cyntaf blwyddyn ariannol 2021/22; perfformiad o ran yr amcanion gwella a llesiant, a gweithgarwch nodedig arall o ran digwyddiadau.

CRYNODEB GWEITHREDOL

2 Aeth y Gwasanaeth at gyfanswm o 1,320 o ddigwyddiadau brys a galwadau diangen gyda’i gilydd, sef 4.2% yn is na’r 1,378 yn yr un cyfnod y llynedd. Fe wnaeth nifer y tanau awyr agored ostwng o 399 i 294 o gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

3 Fe wnaeth y Galwadau Diangen yr aethpwyd atynt ostwng 5.9% o’r 629 yn chwarter cyntaf 2020/21 i 592 yn y cyfnod adrodd hwn. Roedd y gostyngiad yn nifer y galwadau didwyll a’r galwadau maleisus wedi cyfrannu at y gostyngiad cyffredinol hwn, er bod cynnydd yn nifer y galwadau diangen oherwydd offer (larymau tân awtomatig).

4 Cafwyd 153 o ddigwyddiadau gwasanaeth arbennig yn ystod y cyfnod adrodd, o gymharu â 96 yn ystod yr un cyfnod y llynedd, sef cynnydd o 59.4%. Fe wnaeth nifer y gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd yr aethpwyd atynt ddyblu bron, gan gyfrannu at gynnydd yn nifer y digwyddiadau gwasanaeth arbennig yr aethpwyd atynt. Er bod nifer y gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd wedi cynyddu, mae hyn yn dal yn is na’r cyfartaledd tair blynedd sef 38. Gellir priodoli’r cynnydd i lacio cyfyngiadau COVID-19 yn hanner cyntaf 2021, gan arwain at fwy o gerbydau ar y ffyrdd.

5 Fe wnaeth nifer y tanau damweiniol mewn cartrefi gynyddu 9 (sef 8.7%). Yn y digwyddiadau hynny, cofnodwyd bod 15 o bobl wedi cael mân anafiadau a bod dau wedi cael anafiadau difrifol. Yn anffodus, collodd dau o bobl eu bywydau mewn tanau damweiniol mewn cartrefi yn ystod y cyfnod adrodd – sef un yn llai nag yn 2020/21.

6 Gan fod rhai o gyfyngiadau’r pandemig wedi’u codi, fe wnaeth y Gwasanaeth gynnal 2,547 o archwiliadau diogel ac iach yn ystod y chwarter cyntaf, er bod hyn 1,065 yn is na’r 3,612 a gynhaliwyd y llynedd. Roedd nifer yr archwiliadau a gynhaliwyd wyneb yn wyneb yn gyfyngedig oherwydd bod y pandemig wedi cyfyngu ar gysylltiad cymdeithasol, gan arwain at gynnal y rhan fwyaf o archwiliadau dros y ffôn.

7 Roedd nifer y tanau mewn cartrefi yr aeth y Gwasanaeth atynt lle nad oedd larwm mwg yno wedi gostwng fymryn o 16 yn 2020/21 i 13 yn 2021/22. Cafwyd cynnydd yn nifer y tanau mewn cartrefi yr aethpwyd atynt lle roedd larwm mwg wedi rhoi gwybod i’r preswylwyr fod yno dân, sef o 48 i 54, a lle roedd larwm mwg yno ond heb seinio, sef o 22 i 26, o gymharu â’r un misoedd yn y flwyddyn flaenorol.

ARGYMHELLIAD

8 Bod yr Aelodau’n nodi cynnwys yr adroddiad monitro perfformiad.

GWYBODAETH

9 Yn Atodiad 1, er gwybodaeth i’r Aelodau, mae’r adroddiad monitro am y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 30 Mehefin 2021 (Chwarter 1).

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant Mae’n helpu’r Awdurdod i fonitro ei berfformiad mewn perthynas â’r amcanion gwella a llesiant a nodwyd yn y Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2021/24.
Cyllideb Mae’n helpu i dynnu sylw at unrhyw effeithiau posibl ar y gyllideb oherwydd lefel annisgwyl o weithgarwch o ran digwyddiadau.
Cyfreithiol Mae’n helpu’r Awdurdod i sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i ateb y gofynion sydd arno oherwydd lefelau amrywiol o weithgarwch o ran digwyddiadau.
Staffio Ni chanfuwyd unrhyw oblygiadau.
Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg Ni chanfuwyd unrhyw oblygiadau.
Risgiau Byddai peidio â bodloni’r gofynion cyfreithiol i adrodd ynghylch perfformiad a’i fonitro yn gallu effeithio ar y gallu i sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i ateb y galw.

Adroddiad Monitro Perfformiad

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen