Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Monitro Perfformiad Ebrill 2020 – Mawrth 2021

PWRPAS YR ADRODDIAD

1. Rhoi gwybodaeth i’r Aelodau am weithgareddau a pherfformiad Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru mewn perthynas â’r amcanion gwella yn ystod blwyddyn ariannol 2020/21.

CRYNODEB GWEITHREDOL

2. Rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021, aeth y Gwasanaeth at gyfanswm o 4,698 o argyfyngau a galwadau diangen – 3.6% yn is nag yn yr un misoedd yn y flwyddyn ariannol flaenorol.

3. Aethpwyd at gyfanswm o 1,770 o danau yn ystod y flwyddyn - 180 (9.2%) yn is nag yn 2019/20. Yn cyfrannu at y gostyngiad cyffredinol hwnnw roedd nifer is o danau eilaidd a thanau mewn adeiladau amhreswyl, ond roedd llai hefyd o danau bwriadol a phrif danau mewn cartrefi.

4. Aeth y Gwasanaeth at 2,314 o alwadau diangen yn ystod y flwyddyn – 40 (1.8%) yn fwy nag yn 2019/20.

5. Hefyd, aeth y Gwasanaeth at 614 o ddigwyddiadau nad oeddent yn argyfyngau, sef 34 (5.2%) yn is nag yn 2019/20. O fewn y cyfanswm hwnnw, roedd 105 o wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd - 74 (41.4%) yn is nag yn 2019/20.

6. Fe wnaeth nifer y tanau damweiniol mewn cartrefi ostwng 4 (1.1%). Yn y digwyddiadau hynny, cofnodwyd bod 29 o bobl wedi cael mân anafiadau a bod 3 wedi cael anafiadau difrifol. Yn anffodus, collodd 5 o bobl eu bywydau mewn tanau damweiniol mewn cartrefi yn ystod y flwyddyn, sef 2 yn fwy nag yn 2019/20.

7. Er gwaethaf y cyfyngiadau oherwydd y pandemig, llwyddodd y Gwasanaeth i gynnal 11,334 o Archwiliadau Diogel ac Iach yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys 4,382 i gartrefi a oedd yn cael eu hadnabod fel rhai â risg uchel o gael tân. Roedd y nifer a gynhaliwyd yn is na’r bwriad, ond fe wnaeth y Gwasanaeth barhau i dargedu ei weithgareddau at y rhai â’r angen mwyaf oherwydd roedd 34.5% (3,908) o’r Archwiliadau a gynhaliwyd wedi dod o atgyfeiriadau i’r Gwasanaeth gan asiantaethau eraill dan gytundebau partneriaethol a grëwyd i helpu i ganfod cartrefi sy’n fwy agored i niwed.

8. Yn siomedig, fodd bynnag, cynyddodd nifer y tanau mewn cartrefi yr aeth y Gwasanaeth atynt ac a oedd heb larwm mwg, o 43 yn 2019/20 i 51 yn 2020/21; felly hefyd, gostyngodd nifer y tanau mewn cartrefi lle roedd larwm mwg wedi rhoi gwybod am y tân i’r preswylwyr, o 176 yn 2019/20 i 165 yn 2020/21.

ARGYMHELLIAD

9. Bod yr Aelodau’n nodi cynnwys yr adroddiad monitro perfformiad.

GWYBODAETH

10. Mae’r adroddiad monitro am y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021 wedi’i atodi er gwybodaeth i’r Aelodau.

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant Mae’n helpu’r Awdurdod i fonitro ei berfformiad mewn perthynas â’r amcanion gwella a llesiant sydd yn ei gynllun cyfunol ar gyfer gwella a llesiant 2020/21.
Cyllideb Mae’n helpu i dynnu sylw at unrhyw effeithiau posibl ar y gyllideb oherwydd lefel annisgwyl o weithgarwch o ran digwyddiadau.
Cyfreithiol Mae’n helpu’r Awdurdod i sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i ateb y gofynion sydd arno oherwydd lefelau amrywiol o weithgarwch o ran digwyddiadau.
Staffio Ni chanfuwyd unrhyw oblygiadau.
Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg Ni chanfuwyd unrhyw oblygiadau.
Risgiau Byddai peidio â bodloni’r gofynion cyfreithiol i adrodd ynghylch perfformiad a’i fonitro yn gallu effeithio ar y gallu i sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i ateb y galw.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen