Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Bwrdd Pensiwn Lleol Cynlluniau Pensiwn y Diffoddwyr Tân – Adroddiad Blynyddol 2020/21

PWRPAS YR ADRODDIAD

1 Cyflwyno adroddiad blynyddol y Bwrdd Pensiwn Lleol i aelodau’r Awdurdod. Mae’n nodi gwaith y bwrdd yn ystod y flwyddyn ariannol 2020/21. Mae’r adroddiad blynyddol ar gael yn atodiad 1.

CRYNODEB GWEITHREDOL

2 Mae adroddiad blynyddol y Bwrdd Pensiwn Lleol yn nodi’r gwaith a gafodd ei wneud gan y bwrdd yn ystod 2020/21, ac mae’n darparu rhaglen waith ar gyfer 2021/22.

ARGYMHELLIAD

3 Bod yr Aelodau’n cymeradwyo adroddiad blynyddol y Bwrdd Pensiwn Lleol 2020/21, i’w gyhoeddi ar wefan yr Awdurdod.

SYLWADAU’R BWRDD PENSIWN LLEOL

4 Cafodd yr Adroddiad Blynyddol ei ystyried gan y Bwrdd Pensiwn Lleol ar 21 Ebrill 2021, a gwnaethpwyd argymhelliad i’w gymeradwyo.

CEFNDIR

5 Mae’r ddogfen hon yn nodi’r gwaith a wnaed gan Fwrdd Pensiwn Lleol Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru (yr Awdurdod). Yr Awdurdod yw’r Rheolwr Cynllun fel y diffinnir o dan Adran 4 o Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus 2013. Mae’r Bwrdd Pensiwn Lleol wedi’i sefydlu yn unol ag Adran 5 o’r Ddeddf honno.

GWYBODAETH

6 Cafodd y gofynion llywodraethu newydd ynghylch pensiynau eu cyflwyno o ganlyniad i Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus 2013. Mae’r Ddeddf hon yn darparu ar gyfer trefniadau llywodraethu mwy eglur, gyda rolau penodol wedi’u diffinio, cyhoeddi mwy o wybodaeth yn gyson, ac arferion gweinyddu sy’n cyd-fynd â’r rhai yn y sector preifat.

7 Roedd Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Diwygio) (Llywodraethu) 2015, yn ymwneud â chreu a mynd ati i weithredu pensiynau lleol wedi dod i rym ar 1 Ebrill 2015. Mae’r rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod sefydlu Bwrdd Pensiwn Lleol mewn perthynas â Chynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân erbyn 1 Ebrill 2015.

8 Rôl a chylch gwaith y Bwrdd Pensiwn Lleol yw cynorthwyo’r Awdurdod yn ei waith fel Rheolwr Cynllun drwy wneud yn siŵr ei fod yn gweinyddu Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân yn effeithiol ac yn effeithlon, a’i fod yn cydymffurfio â’r cyfreithiau a’r rheoliadau perthnasol. Er mwyn cynorthwyo gyda mater trylowyder, rhaid i’r Rheolwr Cynllun gyhoeddi adroddiad blynyddol am ei Fwrdd Pensiwn Lleol.

9 Fel y nodir yng nghylch gorchwyl y Bwrdd Pensiwn Lleol, dylai’r adroddiad blynyddol gynnwys y canlynol:

• crynodeb o waith y Bwrdd Pensiwn Lleol, a rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn i ddod;
• manylion meysydd pryder a adroddwyd i’r Bwrdd, neu a godwyd gan y Bwrdd, ynghyd â’r argymhellion a wnaed;
• manylion unrhyw wrthdaro rhwng buddiannau sydd wedi codi i aelodau unigol o’r Bwrdd Pensiwn Lleol, a sut y cafodd y rhain eu rheoli
• unrhyw feysydd risg neu bryder y mae’r Bwrdd yn dymuno eu codi gyda’r Rheolwr Cynllun;
• manylion yr hyfforddiant a gafwyd, ac anghenion hyfforddi a nodwyd
• crynodeb o waith y Bwrdd Pensiwn Lleol, a chynllun gwaith ar gyfer y flwyddyn i ddod
• manylion unrhyw dreuliau a chostau a gafodd y Bwrdd Pensiwn Lleol, ac unrhyw dreuliau a ragwelir yn y flwyddyn i ddod.

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant Ystyrir nad ydynt yn berthnasol
Cyllideb Mae cost y Bwrdd Pensiwn Lleol yn cael ei ariannu o’r gyllideb gyfredol ar gyfer Gwasanaethau Aelodau
Cyfreithiol Cafodd y gofynion llywodraethu newydd ar gyfer pensiynau eu cyflwyno o ganlyniad i Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus 2013.
Rheoliadau Llywodraeth (Diwygio) Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân 2015.
Staffio Ystyrir nad ydynt yn berthnasol
Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg Ystyrir nad oes angen delio ag unrhyw faterion oherwydd mae’r argymhellion yr un mor berthnasol i bob Aelod ni waeth beth fo’r nodweddion gwarchodedig dan y Ddeddf Cydraddoldeb Sengl.
Risgiau Rhaid i bob ATA gydymffurfio â’r cyfarwyddyd a roddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ynglŷn â’r trefniadau llywodraethu ar gyfer Byrddau Pensiwn Lleol.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen