Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2020/21

PWRPAS YR ADRODDIAD

Cyflwyno’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft 2020/21 i’r Aelodau.

CRYNODEB GWEITHREDOL

Mae Fframwaith CIPFA/Solace Delivering Good Governance in Local Government Framework (2016) (y Cod) yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r Awdurdod Tân ac Achub (yr Awdurdod) gyhoeddi Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

Mae’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2020/21 ar gael yn Atodiad 1 ac mae wedi cael ei baratoi yn unol â’r egwyddorion sydd wedi eu nodi yn y Cod, sydd yn ymdrin â’r saith maes llywodraethu allweddol.

Yn unol â’r Cod mae blaenraglen waith ar gyfer 2021/22 wedi ei chynnwys yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

Cyhoeddir y Datganiad Llywodraethu Blynyddol fel rhan o’r datganiadau ariannol statudol ar gyfer 2020/21.

Caiff ei asesu gan yr archwiliwr allanol i gadarnhau ei fod yn gyson â’r datganiadau ariannol ac wedi ei lunio yn unol â’r Cod.

ARGYMHELLION

Gofynnir i’r Aelodau argymell cymeradwyo’r trefniadau llywodraethu a’r cynllun gweithredu sydd wedi eu hamlinellu yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2020/21 (Atodiad 1).

CEFNDIR

Ers 2010/11 mae wedi bod yn ofynnol i bob corff llywodraethu lleol, o dan Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio 2015, baratoi Datganiad Llywodraethu Blynyddol i’w gyhoeddi fel rhan o’r Cyfrifon Statudol.

Pwrpas y Datganiad Llywodraethu Blynyddol yw asesu a dangos bod system llywodraethu corfforaethol gadarn ar waith ledled y sefydliad.

GWYBODAETH

Fe gyflwynodd CIPFA a Solace fframwaith lywodraethu newydd, Developing Good Governance in Local Government: Framework, yn Ebrill 2016, a oedd yn cynnwys saith egwyddor newydd ar gyfer llywodraethu. Drwy fabwysiadu’r Fframwaith fe ddylai’r Awdurdod sicrhau bod y trefniadau llywodraethu sydd ganddo ar waith yn gyson â’r egwyddorion hyn. Yn y bôn, mae’n ddatganiad atebolrwydd gan yr Awdurdod i’w randdeiliaid ynglŷn â pha mor dda oedd ei drefniadau llywodraethu yn ystod y flwyddyn flaenorol. Y meincnodau a ddefnyddir wrth lunio’r datganiad yw’r egwyddorion sydd wedi eu cynnwys yn y Fframwaith.

Pwrpas y Datganiad Llywodraethu Blynyddol yw nodi trefniadau’r Awdurdod i sicrhau’r canlynol:

• ei fod yn cynnal ei fusnes yn unol â’r holl ddeddfau a rheoliadau perthnasol;
• bod arian cyhoeddus yn cael ei ddiogelu a’i gyfrifo’n gywir; a
• bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n economaidd, yn effeithlon ac yn effeithiol i gyflawni’r blaenoriaethau cytunedig er budd pobl leol.

Mae’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2020/21 ar gael yn Atodiad 1. Mae’n rhoi trosolwg o’r trefniadau llywodraethu ac yn cadarnhau’r cynllun gwaith ar gyfer 2021/22.

Caiff y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ei adolygu gan Archwilio Cymru i gadarnhau ei fod yn gyson â’i wybodaeth am yr Awdurdod a’i drefniadau ariannol.

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant Mae’r adroddiad yn gysylltiedig ag amcanion llesiant tymor hir ATAGC ac mae’n dangos fod ganddo drefniadau llywodraethu ar waith i alluogi’r Gwasanaeth i ddarparu ymateb brys a gwaith ataliol ymhell i’r dyfodol.
Y Gyllideb Amherthnasol
Cyfreithiol Mae’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol wedi cael ei baratoi yn unol â’r safonau penodedig.
Staffio Dim
Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg Dim
Risgiau Mae fframwaith lywodraethu cadarn yn cefnogi trefniadau rheoli risg yr Awdurdod.

Atodiad

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen