Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Strategaeth Cronfeydd Ariannol wrth gefn

PWRPAS YR ADRODDIAD

Pwrpas yr adroddiad hwn yw cyflwyno’r Strategaeth Cronfeydd Ariannol – wedi’i diweddaru (y Strategaeth) i’r Aelodau.

CRYNODEB GWEITHREDOL

Cafodd y Strategaeth Cronfeydd Ariannol ei chyflwyno ddiwethaf i’r Awdurdod Tân ac Achub ym mis Mawrth 2016, ac yn unol ag arferion da, mae wedi bod yn destun adolygiad.

Mae’r Strategaeth wedi cael ei diweddaru er mwyn adlewyrchu’r arferion a’r gweithdrefnau cyfredol.

ARGYMHELLION

Bod yr Aelodau’n cymeradwyo’r Strategaeth Cronfeydd Ariannol sydd yn Atodiad 1, fel sail i reoli’r cronfeydd defnyddiadwy sydd gan yr Awdurdod Tân ac Achub.

SYLWADAU GAN Y PWYLLGOR ARCHWILIO

Cafodd yr adroddiad ei adolygu gan y Pwyllgor Archwilio yn ei gyfarfod ar 25 Ionawr 2021 a bu i aelodau’r Pwyllgor argymell bod yr Awdurdod Tân ac Achub yn cymeradwyo’r adroddiad.

CEFNDIR

Mae’r Awdurdod Tân ac Achub yn wahanol i awdurdodau lleol eraill oherwydd mae’n cael ei ariannu gan gyfraniadau gan y chwe awdurdod cyfansoddol yng Ngogledd Cymru, felly nid yw’n awdurdod sy’n codi praesept nac yn bilio.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddeddfu ‘Gorchymyn Cynlluniau Cyfunol y Gwasanaethau Tân ac Achub Cyfunol (Amrywio) (Cymru) 2009’ er mwyn cydnabod y baich posibl ar gyllidebau cynghorau petai’r Awdurdod yn gofyn am gyfraniad ychwanegol mewn unrhyw flwyddyn. Mae hyn wedi darparu sail statudol i’r awdurdodau tân ac achub yng Nghymru allu dal cronfeydd wrth gefn.

Mae defnyddio cronfeydd wrth gefn yn rhan hanfodol o reoli materion ariannol yr Awdurdod, ac mae wedi sicrhau bod modd lleihau’r angen i ddiwygio’r cyfraniadau mewn unrhyw flwyddyn.

GWYBODAETH

Mae’r Strategaeth Cronfeydd Ariannol i’w gweld yn Atodiad 1. Mae’n nodi manylion y cronfeydd sy’n cael eu dal ac mae’n dogfennu’r broses ar gyfer adolygu’r cronfeydd ac adrodd yn eu cylch.

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant Drwy ddal cronfeydd wrth gefn, gall yr Awdurdod gyflawni ei amcanion llesiant hirdymor, sef:
• Cefnogi pobl i atal tanau damweiniol mewn cartrefi ac i aros yn ddiogel os bydd tanau o’r fath yn digwydd;
• Hwyluso gwasanaethau tân ac achub sydd o ansawdd uchel, sy’n ymatebol ac wedi’u hintegreiddio’n well er mwyn i weithgareddau ataliol ac ymateb brys allu parhau i fod ar gael pryd a ble y mae eu hangen, a hynny’n fforddiadwy, yn deg ac ar sail risg
Cyllideb Cyfanswm y cronfeydd defnyddiadwy presennol yw £1.82m
Cyfreithiol Mae dyletswydd gyfreithiol ar yr Awdurdod Tân ac Achub i osod cyllideb refeniw fantoledig. Gallai hyn gynnwys defnyddio cronfeydd wrth gefn ar gyfer ymrwymiadau sy’n hysbys.

Staffio Dim
Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg Dim
Risgiau Mae incwm a gwariant yn cael eu monitro’n agos er mwyn sicrhau bod unrhyw achosion o wyro o’r gyllideb a gymeradwywyd yn cael eu canfod yn briodol, a’u hadrodd i’r Aelodau. Mae hyn yn cynnwys symudiadau yn y cronfeydd.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen