Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Strategaeth Gyfalaf 2021/22 – 2023/24

PWRPAS YR ADRODDIAD

Mae’r adroddiad ar y Strategaeth Gyfalaf yn rhoi gwybod sut mae gwariant cyfalaf, cyllido cyfalaf a gweithgareddau rheoli’r trysorlys yn cyfrannu at ddarparu Gwasanaeth Tân ac Achub. Mae’n cynnwys gwybodaeth ynglŷn â’r modd y mae’r risg cysylltiedig yn cael ei reoli, a beth yw’r goblygiadau i gynaliadwyedd ariannol yn y dyfodol. Mae’n rhoi crynodeb o’r prosesau a’r gweithdrefnau cyffredinol sy’n llywodraethu’r gwaith o brynu ac ariannu asedau, a hynny er mwyn cynyddu dealltwriaeth yr aelodau o’r meysydd technegol hyn. Mae’r adroddiad yn ymgorffori’r Dangosyddion Darbodus a Strategaethau’r Trysorlys.

CRYNODEB GWEITHREDOL

Cafodd y cyllidebau refeniw a chyfalaf ar gyfer 2021/22 eu cymeradwyo gan yr Awdurdod Tân ac Achub yn ei gyfarfod ar 9 Tachwedd 2020. Fe wnaeth yr Aelodau gymeradwyo cyllideb refeniw net o £37.07m ar gyfer 2021/22, gan gymeradwyo £3.08m arall ar gyfer gwariant cyfalaf. Mae’r Strategaeth Gyfalaf wedi cael ei pharatoi gan ddefnyddio’r data perthnasol a oedd yn y cyllidebau refeniw a chyfalaf fel y cymeradwywyd gan yr Aelodau ac a oedd mewn gwahanol bolisïau a gweithdrefnau sydd ar gael i reoli’r gwaith o brynu ac ariannu asedau.

Mae’r adroddiad sydd yn atodiad 1 yn darparu rhagor o fanylion am y Strategaeth Gyfalaf, ynghyd â gwybodaeth fanwl am y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2021/22 i 2023/24 a’r strategaeth i’w dilyn mewn perthynas â benthyca a buddsoddi arian yr Awdurdod ym mlwyddyn ariannol 2021/22.

SYLWADAU GAN Y PWYLLGOR ARCHWILIO

Cyflwynwyd yr adroddiad hwn i’r Pwyllgor Archwilio ar 25 Ionawr 2021. Tasg y Pwyllgor Archwilio oedd sicrhau bod strategaeth rheoli’r trysorlys a’r polisïau yn cael eu craffu’n effeithiol, a gwneud argymhellion i’r Awdurdod Tân ac Achub yn seiliedig ar eu canfyddiadau. Bu i’r Aelodau argymell yr adroddiad er cymeradwyaeth yr Awdurdod Tân ac Achub.

ARGYMHELLIAD

Bod yr Aelodau’n cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf sy’n ymgorffori’r polisi ar ddarpariaeth isafswm refeniw (MRP), y Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus.

GWYBODAETH

Mae’r strategaethau yn yr adroddiad wedi cael eu paratoi gan ddefnyddio canllawiau gan Arlingclose, sef ymgynghorwyr Rheoli’r Trysorlys a ddefnyddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac sydd â chyfrifoldeb am swyddogaeth Trysorlys y Gwasanaeth Tân ac Achub.

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant Mae gan yr adroddiad hwn gysylltiad ag amcanion llesiant tymor hir ATAGC. Mae’n sicrhau bod y broses o brynu asedau i gefnogi gwasanaethau rheng flaen yn broses ddarbodus, fforddiadwy a chynaliadwy. Mae’r Strategaeth Gyfalaf yn sicrhau bod digon o fuddsoddiad yn digwydd yn y seilwaith i alluogi’r gwasanaeth i ddarparu ymatebion brys a gwaith ataliol ymhell i’r dyfodol.
Cyllideb Mae’r gyllideb yn cael ei gosod bob blwyddyn ar gyfer cyllido cyfalaf yn unol ag adroddiad y Trysorlys.
Cyfreithiol Mae’r fframwaith rheoleiddio ar gael yn yr atodiadau i’r adroddiad.
Staffio Dim
Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg Dim
Risgiau Buddsoddi arian dros ben – mae yna risg y byddai’r sefydliadau ariannol lle mae arian y gwasanaeth yn cael ei fuddsoddi yn gallu methu, gan golli rhan o’r prifswm a fuddsoddwyd. Er hynny, un o ddibenion yr adroddiad yw lliniaru’r risg yma.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen