Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Archwiliadau Diogel ac Iach

PWRPAS YR ADRODDIAD

Pwrpas yr adroddiad hwn yw rhoi gwybod i’r Aelodau am yr effaith y mae’r cyfyngiadau diweddar oherwydd COVID 19 wedi ei chael ar nifer yr Archwiliadau Diogel ac Iach a gynhaliwyd gan y Gwasanaeth eleni, a beth fydd yr effaith bosibl ar darged blynyddol yr Awdurdod ar gyfer cynnal yr archwiliadau.

CRYNODEB GWEITHREDOL

Mae’r cyfyngiadau oherwydd COVID-19 wedi golygu bod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (y Gwasanaeth) wedi gorfod newid ei fodel ar gyfer cynnal Archwiliadau Diogel ac Iach, sef drwy gynnal y rhan fwyaf ohonynt dros y ffôn. Mae’r nifer is o ymweliadau a gafodd eu cynnal yn bersonol wedi cael eu cyfyngu i gartrefi pobl sydd â risg arbennig o uchel o dân. Mae pob ymweliad o’r fath wedi bod yn destun asesiad risg llym er mwyn diogelu’r preswylydd/preswylwyr a staff y Gwasanaeth.

Felly, mae’r rhagolygon ar ddiwedd y flwyddyn o nifer yr archwiliadau a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn hon yn dangos y posibilrwydd o 40% yn is na tharged blynyddol yr Awdurdod, sef 20,000 o archwiliadau.

Tra bydd cyfyngiadau COVID-19 mewn grym, a hyd yn oed pan gaiff y cyfyngiadau eu codi, mae’n debygol y bydd angen i’r Gwasanaeth adolygu ei fodel cyflenwi Archwiliadau Diogel ac Iach arferol, ac o gael dulliau eraill o bosibl. Felly, efallai y bydd angen i’r Awdurdod ystyried newid ei darged blynyddol ar gyfer yr archwiliadau hyn yn y blynyddoedd i ddod.

ARGYMHELLION

Gofynnir i’r Aelodau:

nodi’r posibilrwydd o nifer is o Archwiliadau Diogel ac Iach a fydd wedi cael eu cynnal yn y flwyddyn ariannol hon o gymharu â’r targed o 20,000 a osodwyd cyn pandemig COVID-19; a
nodi bod posibilrwydd, yn ddibynnol ar COVID-19, y bydd y Gwasanaeth yn methu cyrraedd ei darged blynyddol o 20,000 o Archwiliadau Diogel ac Iach yn 2021/22.

CEFNDIR

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fod Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, yn dilyn Adroddiad Tasglu’r Prif Swyddog Tân yn 2007 (a adolygwyd yn 2009), wedi mabwysiadu targed blynyddol o ddarparu 30,000 o Archwiliadau Diogelwch Tân yn y Cartref. Gan fod tua 300,000 o gartrefi yng Ngogledd Cymru, roedd y strategaeth yn seiliedig ar y posibilrwydd o ymweld â phob cartref o fewn cyfnod o ddeng mlynedd.

Oherwydd bod Llywodraeth Cymru, yn 2015, wedi gostwng y cyllid cyfalaf ar gyfer larymau mwg un-pwynt, cafodd y targed blynyddol ei ostwng o 30,000 i 20,000.

Ers yr adeg honno, mae’r cyllid cyfalaf wedi aros yr un fath ond mae cost unedau’r larymau wedi cynyddu, felly nifer is o’r larymau y gellir eu prynu.

GWYBODAETH

Pan gafodd y cyfnod clo cyntaf yng Nghymru oherwydd COVID-19 ei gyhoeddi ddiwedd mis Mawrth 2020, fe wnaeth y Gwasanaeth roi’r gorau i gynnal Archwiliadau Diogel ac Iach wyneb yn wyneb. Y rheswm am hynny oedd er mwyn cydymffurfio â’r cyfyngiadau symud ac er mwyn diogelu’r gymuned a’r staff a fyddai’n cynnal yr archwiliadau.

Yn hytrach nag ymweld â chartrefi yn bersonol, dechreuodd y Gwasanaeth gynnal mwy o archwiliadau dros y ffôn. Os gwelid bod angen larymau mwg, trefnid i fynd â’r rhain at yr eiddo. Mae rhai o’r staff a fyddai fel arfer yn cynnal archwiliadau yn bersonol wedi cael eu symud i ddyletswyddau eraill, gan gynnwys cefnogi’r ymateb amlasiantaethol i COVID 19.

Ym mis Awst 2020, ar ôl gwneud asesiadau risg llym, aeth y Gwasanaeth ati i adolygu ei benderfyniad ac i ailddechrau cynnal archwiliadau wyneb yn wyneb i unigolion a aseswyd fel rhai a oedd yn arbennig o agored i newid ac â risg uwch o dân.

Rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Ionawr 2021, fe wnaeth y Gwasanaeth gynnal cyfanswm o 9,919 o Archwiliadau Diogel ac Iach. O’r rhain, cafodd 2,229 eu cynnal yn bersonol yn yr eiddo, a chafodd y 7,690 arall eu cynnal dros y ffôn. O’r rhai a gafodd eu cynnal dros y ffôn, roedd 2,512 angen cael larwm mwg ar gyfer yr eiddo. Hyd yma eleni, mae mwy na 33% o’r archwiliadau wedi cael eu cynnal i ymateb i atgyfeiriad gan asiantaeth sy’n bartner i ni.


Amcangyfrifir mai tua 12,000 fydd cyfanswm yr Archwiliadau Diogel ac Iach yn 2020/21, a bydd tua 9,000 o’r rhain wedi digwydd dros y ffôn. Nid yw hyn yn cyrraedd y targed o 20,000 o archwiliadau, sef y targed a osodwyd gan yr Awdurdod o’r blaen, ond wrth i’r pandemig barhau, ystyrir ei bod yn briodol parhau gyda’r dull hwn o’u cynnal.

Os caiff y cyfyngiadau eu codi yn nes ymlaen yn 2021, bydd y Gwasanaeth yn ystyried dychwelyd i gynnal pob Archwiliad Diogel ac Iach wyneb yn wyneb, gan gymryd i ystyriaeth yr hyn a ddysgwyd yn ystod cyfnod y cyfyngiadau. Cydnabuwyd y fantais o gynnal archwiliadau dros y ffôn i gartrefi yr asesir eu bod yn rhai â ‘risg isel’, ac mae’n bosibl iawn y bydd hyn yn rhan o’r strategaeth o gynnal yr archwiliadau yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae’n annhebygol y caiff y cyfyngiadau eu codi’n llwyr o fis Ebrill 2021 ymlaen, felly bydd y Gwasanaeth yn parhau i adolygu’r dulliau yn ystod 2021/22, gyda’r nod o gyfyngu’r dulliau ‘wyneb yn wyneb’ i’r cartrefi yr asesir eu bod â’r risg uchaf o dân.

Er bod nifer is o Archwiliadau Diogel ac Iach wedi cael eu cynnal yn 2020/21, ac er i ni newid y model cyflenwi, mae’r Gwasanaeth yn parhau i ganolbwyntio ar ddarparu archwiliadau i’r bobl sydd â’r risg uchaf o farw mewn tân damweiniol mewn cartrefi. Byddwn ni’n parhau i weithio gyda’n partneriaid i ganfod y bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, ac i ddarparu archwiliadau priodol i’r cartrefi hynny.

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant
Disgwylir bod nifer is na’r targed o Archwiliadau Diogel ac Iach wedi cael eu cynnal eleni. Mae’r amcan hirdymor o weithio tuag at wneud gwelliannau i iechyd, diogelwch a llesiant pobl yng Ngogledd Cymru yn parhau.
Cyllideb
Posibilrwydd y bydd cyllid grant yn cael ei leihau yn y blynyddoedd i ddod.
Cyfreithiol
Ni chanfuwyd dim.
Staffio
Ni chanfuwyd dim. Mae rhai aelodau o staff sydd fel arfer yn cynnal archwiliadau yn bersonol wedi cael eu symud i ddyletswyddau eraill dros dro.
Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg
Parheir i ganolbwyntio ar ddarparu i’r bobl sydd â’r risg uchaf o dân, sy’n cynnwys ystyried nodweddion personol megis oedran ac anabledd wrth asesu. Mae’r archwiliadau’n parhau i fod ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.
Risgiau
Drwy barhau i ddarparu archwiliadau mewn ffordd fwy targedol, rydym yn mynd i’r afael â’r posibilrwydd o’r risgiau cymunedol sy’n gysylltiedig â mwy o danau ac anafusion oherwydd tanau.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen