Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Monitro Perfformiad Ebrill 2020 – Rhagfyr 2020

PWRPAS YR ADRODDIAD

Rhoi gwybodaeth i’r Aelodau am weithgarwch Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, a’i berfformiad mewn perthynas â’r amcanion gwella a llesiant, yn ystod tri chwarter cyntaf blwyddyn adrodd 2020/21.

CRYNODEB

Aeth y Gwasanaeth at 3,600 o ddigwyddiadau brys yn ystod tri chwarter cyntaf 2020/21. Roedd hyn fymryn yn llai nag yn yr un tri chwarter yn 2019/20, sy’n adlewyrchu gostyngiadau yn nifer y gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd a’r tanau bwriadol, ond cynnydd hefyd yn nifer y tanau bach yn yr awyr agored.

Gellir priodoli’r gostyngiad yn nifer y gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd i’r ffaith fod llai o gerbydau ar y ffyrdd yn ystod y cyfnodau clo. Ond yn ddiddorol, fe wnaeth canran y gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd pryd cafodd y Gwasanaeth ei alw i dynnu pobl allan neu ryddhau pobl o gerbydau, aros yn gyson â’r blynyddoedd blaenorol, sef 37%.

Mae’r gostyngiad yn nifer y tanau bwriadol yn gyfuniad o barhad yn y tueddiad cyson am i lawr yn nifer y prif danau bwriadol sydd wedi digwydd dros y pum mlynedd ddiwethaf a 36% o ostyngiad yn nifer y tanau eilaidd bwriadol. Fodd bynnag, mae galwadau at danau bychain mewn gerddi a sbwriel rhydd yn ystod y cyfnodau clo wedi cyfrannu at 39% o gynnydd mewn tanau eilaidd damweiniol.

ARGYMHELLIAD

Bod yr Aelodau’n nodi cynnwys yr adroddiad monitro perfformiad.

GWYBODAETH

Yr holl ddigwyddiadau
Yn ystod tri chwarter cyntaf 2020/21, aeth y Gwasanaeth at 3,600 o ddigwyddiadau brys a galwadau diangen – sef 3.7% yn llai nag yn yr un cyfnod yn 2019/20.

Tanau
Aeth y Gwasanaeth at 1,408 o danau rhwng Ebrill a Rhagfyr 2020, o gymharu â 1,499 o danau rhwng Ebrill a Rhagfyr 2019. Roedd y cyfanswm cyffredinol hwn yn cynnwys 629 o brif danau, 690 o danau eilaidd, ac 88 o danau simnai.

Er bod llai o brif danau wedi cael eu cofnodi yn y categori bwriadol a’r categori damweiniol, nid felly yr oedd hi gyda’r tanau eilaidd. O ran y tanau hyn sy’n rhai llai o faint gan mwyaf, cafwyd 36% o ostyngiad yn nifer y rhai a gafodd eu cynnau’n fwriadol ond 29% o gynnydd yn y rhai a gafodd eu cynnau’n ddamweiniol.

Galwadau diangen
Aeth y Gwasanaeth at 1,777 o alwadau diangen yn ystod y cyfnod adrodd, sef mymryn yn fwy nag yn yr un misoedd yn 2019. Ond o fewn y cyfanswm, cafwyd gostyngiad bach (o 934 i 916) yn nifer yr achosion o alwadau diangen oherwydd systemau larymau tân awtomatig.

Digwyddiadau gwasanaeth arbennig (sef digwyddiadau nad oeddent yn danau)
Aeth y Gwasanaeth at 416 o ddigwyddiadau brys nad oeddent yn danau yn ystod tri chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol hon, o gymharu â 487 yn nhri chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Roedd y rhain yn cynnwys 81 o wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd, a bu’n rhaid tynnu pobl allan/rhyddhau mewn 37% o’r rhain. Yn ystod yr un misoedd y llynedd, aeth y Gwasanaeth at 144 o wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd (sef 43.8% yn fwy), gyda’r un ganran yn cynnwys tynnu pobl allan/rhyddhau.

Tanau damweiniol mewn cartrefi
Aeth y Gwasanaeth at 283 o danau damweiniol mewn cartrefi, sef pymtheg yn fwy nag yn nhri chwarter cyntaf 2019/20. Fe wnaeth y tanau damweiniol hyn mewn cartrefi arwain at un deg naw o bobl yn cael mân anafiadau, dau o bobl yn cael anafiadau difrifol a phedwar o bobl yn colli eu bywydau (bydd nifer derfynol y marwolaethau yn ddibynnol ar ddedfrydau’r crwner).

Archwiliadau Diogel ac Iach
Cafodd 9,064 o Archwiliadau Diogel ac Iach eu cynnal yn ystod y cyfnod. Cafodd 3,039 (34%) ohonynt eu cynnal i ymateb i atgyfeiriad gan asiantaeth sy’n bartner i ni.

Larymau mwg/gwres
Roedd o leiaf un larwm mwg/gwres wedi’i osod yn y rhan fwyaf (84%) o gartrefi yr aeth y Gwasanaeth atynt i ymateb i dân. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw larwm yn yr 16% arall.

Mae Atodiad 1 yn rhoi rhagor o wybodaeth a chymariaethau gyda’r un tri chwarter yn y blynyddoedd blaenorol.

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant
Mae’n cynorthwyo’r Awdurdod i fonitro ei berfformiad mewn perthynas â’r amcanion gwella a llesiant sydd yng nghynllun cyfunol ar gyfer gwella a llesiant 2020/21.
Cyllideb
Mae’n cynorthwyo i dynnu sylw at unrhyw effeithiau posibl ar y gyllideb oherwydd lefel annisgwyl o weithgarwch mewn digwyddiadau.
Cyfreithiol
Mae’n cynorthwyo’r Awdurdod i sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i ateb y gofynion newidiol sydd arno oherwydd newidiadau mewn gwaith ar gyfer digwyddiadau.
Staffio
Ni chanfuwyd unrhyw oblygiadau.
Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg
Ni chanfuwyd unrhyw oblygiadau.
Risgiau
Byddai peidio â bodloni’r gofynion cyfreithiol i adrodd ynghylch perfformiad a’i fonitro yn gallu effeithio ar y gallu i sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i ateb y galw.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen