Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cofnodion Cyfarfod Panel Gweithredol

Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru
Panel Gweithredol

Cofnodion cyfarfod Panel Gweithredol Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru a gynhaliwyd drwy Zoom ddydd Llun 15 Chwefror 2021. Dechreuodd y cyfarfod am 10.00am.

Yn bresennol

Cynghorwyr:
P Lewis (Cadeirydd) Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
D Rees (Dirprwy Gadeirydd) Cyngor Sir Ynys Môn
M Bateman Cyngor Sir y Fflint
A Davies Cyngor Sir Ddinbych
M Ll Davies Cyngor Sir Ddinbych
M Dixon Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
J B Hughes Cyngor Gwynedd
R Parry Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
R Roberts Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hefyd yn bresennol

S A Smith (Prif Swyddog Tân a Phrif Weithredwr); G Owens (Dirprwy Glerc); K Finch (Trysorydd); R Fairhead, H MacArthur ac S Millington (Prif Swyddogion Tân Cynorthwyol); S Morris (Prif Swyddog Cynorthwyol); T Williams (Rheolwr Cyfathrebu Corfforaethol); P Hardwick (Rheolwr Cynllunio Corfforaethol); A Davies (Swyddog Cyswllt Aelodau).

1 YMDDIHEURIADAU

Cynghorwyr:
V Gay Cyngor Sir y Fflint
R Griffiths Cyngor Sir Ynys Môn

2 DATGAN BUDDIANNAU

2.1 Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

3 RHYBUDD O FATERION BRYS

3.1 Rhoddodd y Cadeirydd wybod i’r Aelodau y byddai’r broses recriwtio ar gyfer swydd Prif Swyddog Tân yn cael ei thrafod dan ran II o’r agenda.

4 COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 10 CHWEFROR 2020

4.1 Cafodd cofnodion cyfarfod y Panel Gweithredol a gynhaliwyd ar 10 Chwefror eu cyflwyno i’w cymeradwyo.

4.2 PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod yn gofnod gwir a chywir.

5 MATERION YN CODI

5.1 Nid oedd unrhyw faterion yn codi.

6 Y DIWEDDARAF AM COVID-19

6.1 Rhoddodd y Prif Swyddog Tân wybodaeth am yr effaith y mae COVID-19 wedi’i chael ar y Gwasanaeth o ran absenoldeb gweithwyr a gorfod gwneud addasiadau mewn rhai meysydd, gan gynnwys cynnal Archwiliadau Diogel ac Iach.

6.2 Nodwyd bod y Gwasanaeth wedi gallu cynorthwyo sefydliadau partneriaethol yn ystod y pandemig; mae rhai gweithwyr yn cynorthwyo Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn gyrru ambiwlansiau ac roeddent wedi’u cynnwys yn rhaglen frechu cohort yr Ymddiriedolaeth. Mae gweithwyr eraill wedi cael eu secondio erbyn hyn i gynorthwyo gyda’r gwaith o weinyddu’r rhaglen frechu. Mae’r gwaith cydweithredol hwn wedi bod o fudd i bob partner dan sylw, ac maent wedi bod yn enghreifftiau o’r modd y gall y Gwasanaeth ymateb yn gyflym a sut y mae ganddo amrywiaeth o alluoedd y gall eu cynnig ar gyfer gweithio mewn partneriaeth.

6.3 PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a ddarparwyd.

7 MONITRO PERFFORMIAD EBRILL 2020 I RAGFYR 2020

7.1 Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i roi gwybod i’r Aelodau am weithgareddau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, a’i berfformiad mewn perthynas â’r amcanion gwella.

7.2 Aeth y PSC Morris â’r Aelodau drwy’r adroddiad yn fanwl. Nodwyd bod y Gwasanaeth wedi mynd at 3,600 o ddigwyddiadau brys yn ystod y tri chwarter cyntaf yn 2020/21. Roedd hyn fymryn yn is nag yn yr un tri chwarter yn 2019/20, gan adlewyrchu gostyngiadau yn nifer y gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd a’r tanau bwriadol, ond cynnydd hefyd yn nifer y tanau bach yn yr awyr agored.

7.3 Er y cafwyd gostyngiad yn nifer y prif danau bwriadol, o gymharu ag yn y flwyddyn flaenorol, roedd galwadau at danau bach mewn gerddi a sbwriel rhydd yn ystod y cyfnodau clo wedi cyfrannu at 39% o gynnydd yn nifer y tanau eilaidd damweiniol.

7.4 Yn gryno, gellid ystyried bod y pandemig wedi cyfrannu at ostyngiad yn y rhan fwyaf o gategorïau o ddigwyddiadau. Fodd bynnag, cafwyd cynnydd yn nifer y tanau eilaidd a’r galwadau diangen didwyll. Ar y cyfan, roedd y tueddiad hirdymor am i lawr wedi parhau, gyda nifer y tanau damweiniol mewn cartrefi 20% yn is erbyn hyn, o gymharu â deng mlynedd yn ôl.

7.5 Ar yr adeg hon, gofynnodd y Cyng. Bateman am gael cofnodi gwerthfawrogiad cynghorwyr tref yr Wyddgrug o ymateb cyflym y Gwasanaeth i’r llifogydd yn yr Wyddgrug yn ddiweddar.

7.6 Diolchodd y Cadeirydd i’r PSC Morris am yr adroddiad manwl, gan ddweud mai da oedd nodi bod y rhan fwyaf o danau damweiniol mewn cartrefi wedi’u cyfyngu i’r ystafell lle bu iddynt gychwyn, sy’n dangos pa mor effeithiol yw’r Gwasanaeth am gyrraedd digwyddiadau. Cafwyd trafodaeth wedyn am yr amser ymateb i ddigwyddiadau; roedd yr Aelodau’n cydnabod nad oes targed ar gyfer amser ymateb, ond holwyd a oedd gwybodaeth ar gael am yr amser a gymerwyd i ymateb i ddigwydd a ph’un a oedd hynny’n effeithio ar ddifrifoldeb yr anaf o ganlyniad i danau damweiniol mewn cartrefi. Cadarnhaodd y PSC Morris bod ymchwil wedi cael ei gynnal i’r mater hwn yn gyffredinol ac ni chanfuwyd cydberthynas rhwng maint yr anaf a’r amser a gymerwyd i gyrraedd digwyddiad.

7.7 I ymateb i gwestiwn gan un o’r Aelodau ynglŷn â chodi ymwybyddiaeth o nifer yr achosion o danau eilaidd, cadarnhawyd bod staff Cyfathrebu Corfforaethol yn mynd ati drwy’r amser i rannu negeseuon diogelwch tân ar yr holl gyfryngau cymdeithasol i annog pobl i beidio â chael tanau yn eu gerddi na thanau sbwriel bach. Hefyd, mae ymgyrch yn cael ei chynnal ledled Cymru o’r enw ‘Dawns Glaw’, i godi ymwybyddiaeth o beryglon tanau eilaidd.

7.8 PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad monitro perfformiad.

8 PRENTISIAID DIFFODDWYR TÂN ‘ARWEINWYR Y DYFODOL’

8.1 Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i ddisgrifio’r mesurau a gymerir i ddatblygu gweithwyr presennol y Gwasanaeth ac i roi gwybod i’r Aelodau am raglen brentisiaethau newydd ar gyfer ‘Arweinwyr y Dyfodol’.

8.2 Esboniodd y PSTC Millington fod angen i’r Gwasanaeth gael gweithlu gweithredol sy’n cael eu goruchwylio a’u rheoli gan bobl sy’n meddu ar yr wybodaeth dechnegol a gweithredol angenrheidiol, ac sydd hefyd â’r potensial i gamu ymlaen i swyddi uwch. Yn y blynyddoedd diweddar, mae llai o bobl wedi cymryd rhan yn y prosesau dyrchafu felly mae nifer y gweithwyr sy’n meddu ar y sgiliau gofynnol i gael eu hystyried am ddyrchafiad wedi bod yn is nag yn y blynyddoedd blaenorol.

8.3 Cydnabuwyd bod hwn yn fater anodd ei ddatrys. Yn ogystal â thrafod â’r gweithwyr presennol i ganfod unrhyw rwystrau rhag cymryd rhan yn y cynllun datblygiad gyrfa ac i roi cymorth i’r rhai sydd eisiau cael dyrchafiad, mae’r Gwasanaeth wedi sefydlu’r rhaglen brentisiaethau ‘Arweinwyr y Dyfodol’. Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i recriwtio pobl sydd â mwy o botensial i gamu ymlaen ymhellach na’r swydd diffoddwr tân ac i swyddi rheolwyr goruchwyliol, canol ac uwch. Mae’r prentisiaid hyn wedi cael eu recriwtio yn unol ag amcan yr Awdurdod Tân ac Achub o gael gweithlu sy’n addas o amrywiol, cadarn, medrus, proffesiynol a hyblyg.

8.4 I ymateb i bryder un o’r Aelodau ynglŷn â’r frawddeg yn yr adroddiad sy’n dweud ‘nifer o aelodau o’r staff yn dal swyddi dros dro ar hyn o bryd’ ac a oedd y gweithwyr hynny’n cael eu cefnogi i gamu ymlaen i swyddi parhaol, esboniodd y PST fod pob ymgeisydd, ar ôl unrhyw broses gyfweld, yn cael cyfle i dderbyn adborth unigol gydag aelod o’r panel cyfweld a phan fo angen byddant yn cael cynllun datblygu i’w cynorthwyo i baratoi ar gyfer cyfweliadau yn y dyfodol.

8.5 Roedd y Cadeirydd yn croesawu’r rhaglen ac yn dweud bod dull dau-drywydd, sy’n annog gweithwyr presennol i gymryd rhan yn y rhaglen datblygiad gyrfa yn ogystal â chyflwyno cynlluniau prentisiaeth newydd, yn argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol.

8.6 PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a ddarparwyd yn yr adroddiad.

9 DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021

9.1 Fe wnaeth y PSC Morris gyflwyno’r adroddiad a oedd yn amlinellu rhai o’r goblygiadau posibl i’r Awdurdod Tân ac Achub yn dilyn dyfodiad Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

9.2 Roedd yr adroddiad yn rhoi crynodeb o rai darpariaethau penodol o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, ac yn cynnwys:

• diddymu Mesur Llywodraeth Leol 2009 a chyflwyno trefniadau newydd ar gyfer perfformiad a llywodraethu i’r awdurdodau tân ac achub yng Nghymru;
• dileu’r gofyniad i Weinidogion Cymru gynnal ymchwiliad os byddant yn amrywio gorchymyn cyfuno awdurdod tân ac achub, ac eithrio mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig;
• rheolau newydd ynglŷn â darlledu electronig, mynychu o bell a dogfennu cyfarfodydd awdurdodau tân ac achub;
• cymhlethdod rhai agweddau ar y Ddeddf, a’r angen am gyflwyno rheoliadau ychwanegol er mwyn dod â rhai adrannau i rym.

9.3 Diolchodd y Cadeirydd i’r PSC Morris am roi crynodeb o’r Ddeddf. A PHENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

10 ARCHWILIADAU DIOGEL AC IACH

10.1 Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i roi gwybod i’r Aelodau am yr effaith yr oedd cyfyngiadau COVID-19 wedi’i chael ar nifer yr Archwiliadau Diogel ac Iach a gynhaliwyd gan y Gwasanaeth eleni, a’r effaith bosibl ar darged blynyddol yr Awdurdod ar gyfer cynnal Archwiliadau.

10.2 Rhoddodd y PSTC Fairhead wybod i’r Aelodau fod y Gwasanaeth, yn sgil cyfyngiadau COVID-19 a gyflwynwyd i ddechrau ym mis Mawrth 2020, wedi gorfod diwygio ei fodel cyflawni ar gyfer Archwiliadau Diogel ac Iach, a hynny drwy gynnal y rhan fwyaf ohonynt dros y ffôn. Ers hynny, mae unrhyw ymweliadau ‘personol’ gan aelod o’r staff wedi bod yn gyfyngedig i gartrefi pobl sydd â risg arbennig o uchel o dân ac yn ddibynnol ar asesiadau risg llym er mwyn diogelu’r preswylydd/preswylwyr a staff y Gwasanaeth. Felly, mae’r rhagamcan ar ddiwedd y flwyddyn o nifer yr Archwiliadau a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn ariannol hon yn dangos bod 40% yn llai o bosibl na tharged blynyddol yr Awdurdod o gynnal 20,000 o archwiliadau.

10.3 Hefyd, gofynnwyd i’r Aelodau nodi ei bod yn debygol, tra bydd cyfyngiadau COVID-19 yn dal i fod a hyd yn oed ar ôl codi’r cyfyngiadau, y bydd angen i’r Gwasanaeth adolygu, ac o bosibl, canfod dewisiadau yn lle ei fodel cyflawni arferol ar gyfer Archwiliadau Diogel ac Iach. Felly, efallai y bydd angen i’r Awdurdod yn y dyfodol ystyried diwygio ei darged blynyddol ar gyfer cynnal yr archwiliadau hyn.

10.4 Dywedodd y Cadeirydd y dylai’r Gwasanaeth gael ei ganmol am gyflawni bron i 50% o’r targed er gwaethaf cyfyngiadau COVID-19 . Roedd yn galonogol hefyd fod atgyfeiriadau’n dal i ddod gan asiantaethau sy’n bartneriaid i ni, a hynny fel arfer ar gyfer aelodau mwyaf bregus y gymuned.

10.5 PENDERFYNWYD

(i) nodi’r diffyg posibl yn nifer yr Archwiliadau Diogel ac Iach a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn ariannol hon, o gymharu â’r targed o 20,000 a osodwyd cyn pandemig COVID-19; a
(ii) nodi bod posibilrwydd, yn dibynnu ar COVID-19, i’r Gwasanaeth fethu cyrraedd ei darged blynyddol o 20,000 o Archwiliadau Diogel ac Iach yn 2021/22.

11 Y DIWEDDARAF AM BREXIT

11.1 Rhoddodd PSTC Fairhead wybodaeth am yr effaith y mae ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd ar 31 Ionawr 2021 wedi’i chael ar y Gwasanaeth.

11.2 Oherwydd y gwaith paratoi a gafodd ei wneud yn y Gwasanaeth, ac fel rhan o’r Grŵp Cydlyniant Strategol, sy’n cynnwys partneriaid o bob rhan o Ogledd Cymru, roedd y Gwasanaeth wedi llwyddo i barhau i ddarparu ei holl wasanaethau ar ôl 31 Ionawr 2021. Er na tharfwyd ar y gadwyn gyflenwi sy’n danfon cerbydau a chyflenwadau offer o wledydd yr Undeb Ewropeaidd, mae gan y Gwasanaeth gynlluniau rheoli parhad busnes yn barod i’w rhoi ar waith os bydd angen.

11.3 Roedd y Grŵp Cydlyniant Strategol wedi cael ei dynnu oddi ar ddyletswydd, ond mae’r agwedd fonitro yn parhau ac os bydd unrhyw broblemau’n codi gellir adsefydlu’r Grŵp ar fyr-rybudd os bydd angen.

11.4 PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.

Yna, penderfynwyd symud i ran II o’r cyfarfod, a gofynnwyd i’r holl swyddogion adael heblaw am y Prif Swyddog Tân, y Trysorydd, y Dirprwy Glerc, y Cyfieithydd a’r Swyddog Cyswllt Aelodau.

RHAN II

12 PROSES RECRIWTIO PRIF SWYDDOG TÂN

12.1 Cafodd yr Aelodau wybodaeth am y broses recriwtio i swydd Prif Swyddog Tân.

12.2 PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen