Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

PWRPAS YR ADRODDIAD

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi gwybod i’r Aelodau am ddyfodiad Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, ac mae’n amlinellu rhai o’r goblygiadau posibl i’r Awdurdod Tân ac Achub.

CRYNODEB GWEITHREDOL

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi manylion am rai darpariaethau penodol o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Mae’n nodi’r ffaith fod Mesur Llywodraeth 2009 yn cael ei ddiddymu, a bod trefniadau perfformiad a llywodraethu newydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer yr awdurdodau tân ac achub yng Nghymru. Mae’n nodi hefyd ddiwedd y gofyniad i Weinidogion Cymru gynnal ymchwiliad os byddant yn amrywio gorchymyn cyfuno awdurdod tân ac achub, ac eithrio mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig. Ceir disgrifiad hefyd o reolau newydd am ddarlledu electronig, mynychu o bell a dogfennu cyfarfodydd awdurdodau tân ac achub. Mae hefyd yn nodi cymhlethdod rhai agweddau ar y Ddeddf, a’r angen i gael rheoliadau ychwanegol er mwyn dod â rhai adrannau i rym.

ARGYMHELLION

Bod yr Aelodau’n nodi cynnwys yr adroddiad.

CEFNDIR

Ar 20 Ionawr 2021, fe wnaeth Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) gael Cydsyniad Brenhinol a dod yn un o Ddeddfau Senedd Cymru.

Cafodd y Bil ei gyflwyno ym mis Tachwedd 2019 gan Julie James AoS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, gan ddatgan mai ei bwrpas oedd darparu ar gyfer “sefydlu fframwaith deddfwriaethol newydd a diwygiedig ar gyfer etholiadau llywodraeth leol, democratiaeth, llywodraethiant a pherfformiad”.

Mae’r darpariaethau yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Deddf 2021) yn ymwneud ag amrywiaeth o faterion, sy’n cynnwys:
• trefniadau etholiadol ar gyfer llywodraeth leol, gan gynnwys ymestyn cylchoedd etholiadol cynghorau o 4 i 5 mlynedd;
• pŵer cymhwysedd cyffredinol sy’n galluogi cynghorau cymhwysol i “weithredu er budd eu cymunedau” heb yr angen i bennu pwerau penodol i ymgymryd â gweithgaredd penodol;
• rôl y prif gynghorau yn annog cyfranogiad y cyhoedd mewn democratiaeth leol;
• hawliau rhai gweithwyr a deiliaid swyddi mewn awdurdod lleol (neu gyrff cysylltiedig) i sefyll am etholiad i’r awdurdod hwnnw heb orfod ymddiswyddo oni bai eu bod yn cael eu hethol;
• mecanweithiau gweithio rhanbarthol, gan gynnwys uniadau gwirfoddol neu ailstrwythuro prif gynghorau;
• trefniadau perfformiad a llywodraethu;
• cyllid llywodraeth leol, gan gynnwys ardrethi annomestig a threth cyngor;
• materion ‘amrywiol’ yn ymwneud â:
• rhannu gwybodaeth rhwng rheoleiddwyr,
• penaethiaid gwasanaethau democrataidd,
• pleidleisiau cymunedol,
• Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru,
• byrddau gwasanaethau cyhoeddus,
• awdurdodau tân ac achub cyfunol: ymchwiliadau,
• perfformiad a llywodraethu awdurdodau tân ac achub, a
• Mesur Llywodraeth Leol 2009.

GWYBODAETH

Fel mae’r teitl yn ei awgrymu, mae Deddf 2021 yn gymwys i lywodraeth leol. Fodd bynnag, nid yw ei holl ddarpariaethau’n gymwys i bob corff sydd o fewn y diffiniad ehangach o lywodraeth leol. Nid yw bob amser yn amlwg ar unwaith a yw pob adran yn gymwys i awdurdod tân ac achub (ATA), neu sut mae’n gymwys iddo, a bydd nifer o’r darpariaethau yn dibynnu ar gael rheoliadau gwahanol gan Weinidogion Cymru.

Mae rhai o’r newidiadau ar gyfer ATAau yn ymwneud â’r canlynol:

Perfformiad a llywodraethu (adran 167):

Diwygiadau i Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, sy’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i ATAau ddatblygu cynlluniau strategol a phennu beth y dylai’r cynlluniau hynny eu cynnwys. Gallai rheoliadau o’r fath bennu hefyd pa drefniadau a fyddai’n cael eu defnyddio i asesu perfformiad yr Awdurdod mewn perthynas â’r cynlluniau hyn ac mewn perthynas â’r Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub. Bydd y trefniadau perfformiad a llywodraethu ar gyfer prif gynghorau yn agored i reoliadau gwahanol, yn seiliedig ar hunanasesiad ac adolygiadau gan gymheiriaid.
Mesur Llywodraeth Leol 2009 (adrannau 168 a 169)

Mae Deddf 2021 yn diddymu Mesur Llywodraeth Leol 2009, felly mae’n dileu dyletswyddau’r Awdurdod ym maes cynllunio gwelliannau fel “awdurdod gwella Cymreig”. Ni fydd angen mwyach i’r Awdurdod osod amcanion gwella o dan y Mesur hwn ond bydd angen iddo o hyd osod amcanion o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. Hefyd, bydd angen i’r Awdurdod gyhoeddi un asesiad ôl-weithredol arall o’i berfformiad mewn perthynas ag amcanion gwella 2020/21 o dan y rheoliadau blaenorol, a hynny erbyn 31 Hydref 2021.

Mae diddymu Mesur Llywodraeth Cymru 2009 hefyd yn golygu na fydd dyletswydd mwyach ar yr Archwilydd Cyffredinol i asesu, yn 2021/22, a yw’r Awdurdod wedi cyflawni ei rwymedigaethau ym maes gwella yn ystod 2020/21. Fodd bynnag, mae Archwilio Cymru wedi dweud eu bod yn ystyried ymgorffori’r gwaith hwn yn eu rhaglen archwilio yn 2021/22 er mwyn ardystio asesiad yr Awdurdod, yn Hydref 2021, o’i berfformiad mewn perthynas ag amcanion gwella 2020/21.

Awdurdodau tân ac achub cyfunol: ymchwiliadau (adran 166)

Mae’r adran hon o Ddeddf 2021 yn ymwneud ag ymchwiliadau i drefniadau cyllid a llywodraethu ATAau a sefydlwyd drwy orchmynion cyfuno o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Mae Deddf 2004 yn cael ei diwygio i ddileu’r gofyniad i Weinidogion Cymru gynnal ymchwiliad pan fyddant amrywio gorchymyn cyfuno, ac eithrio os yw’r amrywiad naill ai’n newid yr ardal a wasanaethir gan yr ATA neu’n dirymu’r gorchymyn cyfuno gyda’r bwriad o greu cyfluniad cwbl wahanol o ATAau.

Darllediadau electronig o gyfarfodydd awdurdodau lleol (adran 46)

Mae’r adran hon yn ymwneud â dyletswyddau i brif gynghorau ddarlledu cyfarfodydd cynghorau tra maent yn digwydd, a hefyd i sicrhau bod recordiadau o ddarllediadau ar gael am gyfnod rhesymol ar ôl y cyfarfod. Er nad yw’r adran hon yn gymwys ar hyn o bryd i’r ATAau, mae’r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau a fyddai’n ymestyn gofynion tebyg i’r ATAau.

Mynychu cyfarfodydd (adran 47)

Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynnal cyfarfodydd awdurdodau lleol (yn yr achos hwn, mae awdurdod lleol yn cynnwys ATAau) yn gwbl rithiol neu’n rhannol rithiol.

Roedd Cylchlythyr Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru W-FRSC(2020)11, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2020, yn esbonio y byddai hyn, i’r ATAau, yn golygu y byddai mynychwyr, fel y lleiaf, yn gallu mynychu drwy gysylltiad sain yn unig, er enghraifft cynhadledd ffôn, ond na fyddai hyn yn atal yr ATAau rhag defnyddio cysylltiadau fideo os ydynt yn dymuno.

Hysbysiadau ynglŷn â chyfarfodydd, a dogfennau eraill
(adrannau 49 a 50)

Mae’r adran hon yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynglŷn â sicrhau bod hysbysiadau a dogfennau ar gael.

Mae agweddau eraill ar Ddeddf 2021 yn llai eglur o ran eu heffaith gwirioneddol ar yr ATAau. Er enghraifft:

Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Gweithio Rhanbarthol

Mae adran 165 (uno a daduno byrddau gwasanaethu cyhoeddus) yn ymwneud yn glir â’r ATAau oherwydd maent yn aelodau statudol o’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Ond mae’r fframwaith ar gyfer cydweithio rhanbarthol a chydbwyllgorau corfforedig (Rhan 5 o’r Ddeddf) yn ymwneud â phrif gynghorau yn unig, er bod byrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi’u rhestru yn Rhan 5 fel rhai i ymgynghori â nhw mewn gwahanol gamau. Felly, rhaid aros i weld sut bydd y trefniadau hyn yn gweithio yn ymarferol.

Y camau nesaf: Dros yr wythnosau nesaf, bydd y Swyddogion yn gweithio gyda’r Clerc i ganfod a chadarnhau pa feysydd o Ddeddf 2021 sy’n gymwys i’r Awdurdod, a pha newidiadau y bydd angen eu hymgorffori yn nogfennau perthnasol yr Awdurdod a pholisïau a/neu weithdrefnau’r Gwasanaeth. Caiff rhagor o adroddiadau eu darparu i’r Panel Gweithredol, y Pwyllgor Archwilio, y Pwyllgor Safonau a/neu’r Awdurdod llawn, fel y bo’n briodol.

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant
Mae’r ATA eisoes wedi cael dull cyfun o ymdrin â’i Amcanion Gwella a Llesiant. Fodd bynnag, gan na fydd yr ATA mwyach yn gorfod ymgymryd â dyletswyddau cynllunio gwelliannau o dan Fesur Llywodraeth Leol 2009, bydd ei sylw yn mynd ar osod Amcanion Llesiant, ac ar weithio tuag at y rheini.
Cyllideb
Bydd y gost o weithredu unrhyw ran o Ddeddf 2021 yn cael ei phennu fel rhan o’r camau nesaf a gynllunnir (paragraff 10 uchod).
Cyfreithiol
Bydd angen i’r ATA sicrhau ei fod yn canfod, ac yn sicrhau, cydymffurfiaeth â phob agwedd ar Ddeddf 2021 sy’n gymwys iddo.
Staffio
Ni chanfuwyd unrhyw oblygiadau.
Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg
Bydd angen i’r gwaith o ddatblygu neu ddiwygio polisïau, gweithdrefnau a threfniadau eraill gael ei asesu mewn perthynas â’r agweddau hyn yn ystod y broses o’u datblygu a’u gweithredu.
Risgiau
Risg o fethu â mynd ati’n gywir i ganfod a gweithredu’r agweddau hynny ar Ddeddf 2021 sy’n gymwys i’r ATA.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen