Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Prentisiaid Diffoddwyr Tân ‘Arweinwyr y Dyfodol’

PWRPAS YR ADRODDIAD

Rhoi disgrifiad i’r Aelodau o’r mesurau a gymerwyd i ddatblygu ein staff cyfredol ac i recriwtio dechreuwyr newydd sydd â’r potensial i gamu ymlaen i swyddi uwch yn y dyfodol.

Rhoi gwybod i’r Aelodau am y cynnydd a wnaed wrth recriwtio prentisiaid diffoddwyr tân ‘Arweinwyr y Dyfodol’.

CRYNODEB GWEITHREDOL

Oherwydd gostyngiad yn nifer ac ansawdd yr ymgeiswyr sydd wedi cymryd rhan mewn prosesau dyrchafu yn y blynyddoedd diweddar, mae methiant wedi bod i benodi’n barhaol i swyddi ar wahanol lefelau o’r gwasanaeth gweithredol.

Mae’r mater yn un cymhleth, ac nid oes un ateb unigol. Fodd bynnag, defnyddiwyd nifer o wahanol fesurau er mwyn mynd i’r afael â’r broblem.

Mae llawer o’r mesurau yn ceisio canfod a meithrin talent o fewn y gweithlu presennol. Mae rhai eraill yn ymwneud â recriwtio dechreuwyr newydd sydd â’r potensial i gael eu datblygu’n gyflymach, gan ennill yr holl gymwyseddau angenrheidiol ar yr un pryd.

Am y tro cyntaf, bydd y Gwasanaeth yn cynnal rhaglen brentisiaethau i geisio recriwtio prentisiaid sydd â mwy o botensial i gamu ymlaen y tu hwnt i swydd diffoddwr tân ac i swyddi rheolwyr goruchwyliol, rheolwyr canol ac uwch reolwyr.

Mae’r gwaith o recriwtio prentisiaid ‘Arweinwyr y Dyfodol’ wedi cael ei wneud yn unol ag amcan yr Awdurdod Tân ac Achub o gynnal gweithlu sy’n addas o amrywiol, medrus, cydnerth, proffesiynol a hyblyg.

Erbyn diwedd y tair blynedd o brentisiaeth, bydd y rhai sydd wedi cwblhau’r rhaglen wedi cael profiad o weithio mewn gwahanol orsafoedd ac adrannau ymhob rhan o’r Gwasanaeth.

Bydd prentisiaid ‘Arweinwyr y Dyfodol’ yn gallu dangos lefel uchel o allu technegol ac ymarferol, ynghyd â phrofiad galwedigaethol a chymwysterau academaidd. Yna, byddant yn barod i gamu ymlaen i yrfa mewn swyddi rheolaethol.

ARGYMHELLION

Bod yr Aelodau’n nodi’r wybodaeth sydd yn yr adroddiad hwn.

CEFNDIR

Er mwyn darparu’r lefelau priodol o oruchwyliaeth a rheolaeth ar gyfer y gweithlu gweithredol, rhaid dewis y bobl iawn, sydd nid yn unig â’r wybodaeth dechnegol a gweithredol angenrheidiol ond sydd hefyd â’r potensial i gamu ymlaen i swyddi uwch.

Yn y blynyddoedd diweddar, mae llai o bobl wedi bod yn cymryd rhan yn yr elfennau cymhwysol o’r prosesau dyrchafu felly mae nifer yr aelodau o’r staff sydd â’r sgiliau gofynnol i gael eu hystyried ar gyfer dyrchafiad wedi bod yn llawer is nag yn y blynyddoedd blaenorol.

Mae’r rhai sydd wedi ennill yr elfennau cymhwysol gofynnol, ac wedi mynychu’r cyfweliadau ar gyfer lefelau rheolaeth oruchwyliol a rheolaeth ganol, wedi bod yn aml yn methu dangos dealltwriaeth o ymwybyddiaeth sefydliadol ehangach a’r gofynion corfforaethol sydd ar swyddog gweithredol.

Oherwydd y problemau o gael llai o ymgeiswyr yn cymryd rhan yn y prosesau dyrchafu, a gostyngiad yn ansawdd yr ymgeiswyr sy’n gwneud cais am ddyrchafiad, mae methiant wedi bod i benodi’n barhaol, ac mae nifer o aelodau o’r staff yn dal swyddi dros dro ar hyn o bryd.

Er mwyn deall yn well pam mae’r staff wedi bod yn gyndyn o gymryd rhan yn y prosesau dyrchafu, ac er mwyn cynyddu’r nifer sy’n cymryd rhan ynddynt, defnyddiwyd cyfres o fesurau rhagweithiol.

Mae’r mesurau wedi cynnwys ymgysylltu â’r staff; hyrwyddo’r ffaith fod llawer o fanteision yn gysylltiedig â chamu ymlaen mewn gyrfa; annog rhagor i gymryd rhan yn y broses ddyrchafu, a chynnal digwyddiadau gweithdy i roi dealltwriaeth well i’r staff o sut i lwyddo yn yr elfennau cymhwysol o’r broses. Hefyd, mae nifer y cyfleoedd i’r staff ennill yr elfennau cymhwysol gofynnol wedi cynyddu o unwaith y flwyddyn i ddwywaith y flwyddyn.

Hefyd, cymerwyd nifer o fesurau i ddatblygu’r rhai sydd â thalent fel eu bod nid yn unig yn gallu cyrraedd y safonau angenrheidiol er mwyn cael y cyfweliad terfynol ond hefyd fel eu bod yn fwy parod pan fyddant yn gwneud hynny. Mae hyn wedi cynnwys canfod aelodau o’r Gwasanaeth yr ystyrir bod ganddynt ‘botensial uchel’ a rhoi cyfleoedd datblygu iddynt sy’n bwrpasol i’w hanghenion unigol nhw.

Datblygwyd sawl cyfle am weithdy a dosbarth meistr, a rhannwyd yr wybodaeth amdanynt â’r rhai sy’n cymryd rhan yn y prosesau dyrchafu. Dyma rai o feysydd y dosbarthiadau meistr: gohebiaeth ysgrifenedig, cysylltiadau â’r cyfryngau, cyllid, cael sgyrsiau anodd, gofynion swyddog corfforaethol, ac ymwybyddiaeth wleidyddol.

Yn y blynyddoedd blaenorol, mae prentisiaid wedi bod yn rhan annatod o strategaeth y Gwasanaeth ar gyfer recriwtio diffoddwyr tân gweithredol.

Mae’r Gwasanaeth wedi llwyddo eisoes i recriwtio a datblygu dau gohort o brentisiaid, gan eu galluogi i wneud cais am swydd barhaol ar ôl iddynt gymhwyso. Mae pob prentis diffoddwyr tân blaenorol wedi cael eu penodi i swyddi diffoddwyr tân parhaol.

Gan adeiladu ar lwyddiant y ddau gohort cyntaf o brentisiaid, a hefyd er mwyn mynd i’r afael yn rhagweithiol â’r angen i recriwtio rhai sydd â’r potensial i gamu ymlaen i swyddi uwch gyda lefel uwch o sicrwydd, crëwyd y cysyniad o brentisiaeth ‘Arweinwyr y Dyfodol’.

GWYBODAETH

Dechreuodd y broses recriwtio yn gynnar yn 2020, gyda saib byr oherwydd cyfyngiadau COVID. Erbyn hyn, mae mesurau rheoli addas wedi caniatáu i ni oresgyn y cyfyngiadau ac mae’r broses wedi cael ei chwblhau.

Bydd prentisiaid ‘Arweinwyr y Dyfodol’ yn cael profiadau hyfforddi ychwanegol yn ystod eu tair blynedd o brentisiaeth. Bydd yn dod yn ofynnol yn eu contract eu bod yn llwyddo yn y gofynion achredu ar gyfer prentisiaeth diffoddwyr tân traddodiadol a hefyd yn y gofynion arweinyddol, yn y profion technegol a chanolfannau asesu a datblygu, yn ogystal ag wrth weithio mewn amrywiaeth o adrannau cefnogol. Bydd hyn i gyd yn paratoi’r prentisiaid ar gyfer eu llwybrau gyrfa.

Mae cyflawniad academaidd blaenorol yn ffordd resymol o ragweld gallu ymgeisydd i ymdopi â’r datblygiad dwys sydd ei angen yn y cyfnod o dair blynedd. Felly, roedd y gofynion mynediad ar gyfer prentisiaid ‘Arweinwyr y Dyfodol’ yn rhai ar lefel uwch nag ar gyfer y cohortau blaenorol o brentisiaid.

Cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau gweithredu cadarnhaol cyn dechrau’r broses recriwtio. Bu’r gweithgareddau hyn yn llwyddiannus wrth helpu i sicrhau llawer mwy o amrywiaeth ymysg ymgeiswyr y grŵp nag a gafwyd mewn ymgyrchoedd recriwtio blaenorol.

Ar ôl ymgyrch recriwtio lwyddiannus mewn nifer o gamau, detholwyd deg ymgeisydd i’w penodi, ac os byddant yn pasio’r holl archwiliadau cyn-cyflogi, gan gynnwys archwiliad meddygol, byddant yn dechrau ar eu prentisiaethau ar 19 Ebrill 2021.

Mae’r grŵp a ddewiswyd yn un amrywiol a chytbwys o ran rhywedd, proffil oedran a lefel eu gallu i siarad Cymraeg.

Am y tro cyntaf, mae cyrraedd lefel dau yn y Gymraeg o fewn y cyfnod prawf, a lefel tri cyn diwedd y cwrs, yn ofyniad yn y contract i bob prentis diffoddwyr tân.

Bydd y rhan gyntaf o’u hyfforddiant yn canolbwyntio ar swydd diffoddwr tân gweithredol, a bydd yn cymryd 11 wythnos i’w chwblhau. Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant cychwynnol, bydd y prentisiaid yn parhau â’u taith ddatblygu ac yn dechrau ar y cyntaf o nifer o gyfnodau mewn gwahanol adrannau ar draws y sefydliad. Byddant yn cael nifer o gyrsiau ac yn ennill nifer o gymwysterau ar y daith.

Ar ôl cwblhau’r tair blynedd o raglen, bydd y prentisiaid yn barod i gamu ymlaen i’r haen gyntaf o reolaeth linell, ond bydd ganddynt hefyd lawer o’r sgiliau a’r profiadau i’w galluogi i symud o reolaeth oruchwyliol i reolaeth ganol yn sydyn wedyn.

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant
Mae pumed amcan llesiant yr Awdurdod yn ymwneud â chynnal gweithlu sy’n addas o amrywiol, cydnerth, medrus, proffesiynol a hyblyg. Mae prentisiaid yn rhan sylfaenol o’r broses o gyflawni’r amcan hwn. Bydd y rhaglen ‘Arweinwyr y Dyfodol’ yn adeiladu ar lwyddiannau’r ddwy raglen brentisiaethau flaenorol.
Cyllideb
Mae’r swyddi hyn eisoes wedi cael eu hystyried, ac maent wedi’u cynnwys ym mhroses yr Awdurdod o osod ei gyllideb ar gyfer 2021/22.
Cyfreithiol
Mae dyletswydd ar yr Awdurdod i ddarparu gweithlu sydd wedi cael hyfforddiant addas, ac i gynllunio ar gyfer y gofynion o ran sicrhau adnoddau ar gyfer y dyfodol.
Staffio
Bydd yr holl ofynion staffio i gefnogi’r gwaith o gynnal rhaglen brentisiaethau ‘Arweinwyr y Dyfodol’ yn dod o blith y gweithlu presennol.
Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg
Cyn dechrau’r broses recriwtio, ceisiodd y Gwasanaeth ymgysylltu ac annog ymgeiswyr o bob rhan o’r gymdeithas sydd fwyaf cynrychioliadol o gymunedau Gogledd Cymru.
Rhaid i bob prentis gyrraedd lefel tri yn y Gymraeg cyn diwedd y cwrs.
Risgiau
Ni chanfuwyd dim.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen