Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Wrecsam

Canolfan Adnoddau y Gwasanaethau Ambiwlans a Thân

Ffordd Croesnewydd

Wrecsam.

Ll13 7YU

Tel:  01745 535 250

Manylion y Criw:

Mae gorsaf Wrecsam yn orsaf amser cyflawn sydd gan bedair gwylfa amser cyflawn (Glas, Coch, Gwyrdd a Gwyn) ac un wylfa ran amser.

Ardal yr Orsaf:

I'r Gogledd a'r Dwyrain mae Gorsaf Dân Wrecsam yn gofalu am yr ardal hyd at y ffin â Swydd Gaer ac i'r De hyd at Johnstown. I'r Gorllewin mae'n gofalu am yr ardal hanner ffordd i'r Wyddgrug.

Safleoedd o Risg:

Ysbyty

Ystadau diwydiannol

Nwy Prydain.

Galwadau Cofiadwy:

Stryd Nelson, Hightown, pan fu farw saith o blant mewn tân mewn ty.

Ffatrioedd GKK a Deepack Plastics - llosgwyd y ddwy ffatri i'w llawr wythnos union ar ôl ei gilydd ac roedd y ddwy y drws nesaf i'r gilydd ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam.

Hanes yr Orsaf:

Roedd yr orsaf dán gwreiddiol yn rhan o Wasanaeth Tân Sir Ddinbych a Sir Drefaldwyn, ac wedi ei leoli yn sgwâr Neuadd y Dref lle mae yna ganolfan siopau rŵan. Adeiladwyd gorsaf newydd ar Ffordd Bradley yn 1954/55 a parhaodd hwn i wethredu tan 2016.

Cafwyd y Ganolfan Adnoddau Gwasanaethau Ambiwlans a Thân (AFSRC) newydd sbon ar Ffordd croesnewydd ei orffen ar 4 Mawrth 2016.

Mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi buddsoddi mwy na £15 miliwn ar y cyd yn yr adeilad pwrpasol hwn, sy'n cynnwys gorsaf dân wyth-bae, gorsaf ambiwlans chwe-bae a chyfleusterau hyfforddi o'r radd flaenaf.

Dechreuodd y staff weithredu allan o'r ganolfan hon ar13 Ebrill 2016.

Mae'r ganolfan yn cynnig gwell cyfleusterau i staff a gwell gwasanaeth i'r cyhoedd yn yr ardal. Mae gweithredu o un ganolfan yn sicrhau mwy o gydweithio wrth ymateb i ddigwyddiadau a bydd yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau i'r ddau sefydliad.

Cafwyd caniatâd ar gyfer yr adeilad deulawr ar dir ger Ysbyty Maelor Wrecsam gan bwyllgor cynllunio Cyngor Wrecsam ym mis Mai 2014, a chymeradwy-wyd yn ddiweddarach Achos Busnes Llawn gan Lywodraeth Cymru.

Mae adeilad yr ambiwlans yn cynnwys gweithdy fflyd, cyfleuster bod yn barod, garej chwe-bae, swyddfeydd ar gyfer staff a rheolwyr fflyd, ystafell ddibriffio a chanolfan leoli ar gyfer staff ymateb.

Mae adeilad y gwasanaeth tân yn cynnwys swyddfa diogelwch y gymuned leol, garej wyth-bae, campfa, ystafelloedd hyfforddiant hynod fodern gydag ardal hyfforddiant damweiniau ffyrdd. Bydd y ddau wasanaeth yn rhannu cyfleusterau fel ystafell orffwys, ystafell fwyta, cegin i bawb, prif swyddfa, ystafell loceri, ystafelloedd cyfarfod a hyfforddiant.

 

 

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen