Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Glannau Dyfrdwy

Gorsaf Dân Glannau Dyfrdwy
Chester Road East
Glannau Dyfrdwy
CH5 1TD
Ffôn:01745 535 250

 

Manylion y Criw:

Mae gorsaf Glannau Dyfrdwy yn orsaf amser cyflawn sydd gan bedair gwylfa amser cyflawn (Glas, Coch, Gwyrdd a Gwyn) ac un wylfa ran amser.

Yr Ardal Ddaearyddol a Wasanaethir:

Glannau Dyfrdwy a phlwyfi cyfagos.  Oherwydd ei bod mor agos at y ffin, mae criwiau Glannau Dyfrdwy yn cael eu galw i ddigwyddiadau yn Swydd Gaer yn aml iawn.

Safleoedd o Risg:

Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy - un o barciau diwydiannol mwyaf Ewrop.

Mae yna nifer o ffatrïoedd yn ogystal yn cynnwys Airbus,Toyota a Shotton Paper a thri pwerdy.

Hanes yr Orsaf:

Agorwyd yr osaf ar Fawrth 19, 1964 gan Mr A.V.Thomas oedd Arolygydd Gwasanaeth Tân Ei Mawrhydi. Mynychwyd yr agoriad gan JHW Strange MBE, Prif Swyddog Tân Sir y Fflint. Symundodd yr orsaf o Church Street, Cei Conna i'w leoliad presennol, sy'n cael ei rannu gyda Gorsaf Ambiwlans Glannau Dyfrdwy, er mwyn gwella amseroedd ymateb ar gyfer diwydiannau oedd yn datblygu yn yr ardal.

Cafodd yr orsaf dân ei hail-fodelu a'i hagor yn swyddogol ar Ddydd Llun 14eg Mawrth ar ôl cwblhau gwaith ailwampio mawr ar y safle.

Mae'r orsaf yn cynrychioli'r cyfleustra tri-gwasanaeth cyntaf un yng Ngogledd Cymru gan ei bod hefyd yn darparu cyfleusterau i Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Dechreuodd y gwaith ar y prosiect ym mis Mehefin 2014 ac mae'r buddsoddiad hwn wedi uwchraddio'r orsaf i greu cyfleusterau modern i wasanaethu anghenion staff y gwasanaethau argyfwng a'r gymuned leol.

Mae diffoddwyr tân Glannau Dyfrdwy yn ymateb i ddigwyddiadau yn ardal Glannau Dyfrdwy a thu hwnt, gan gynnwys digwyddiadau dros y ffin yn Sir Gaer. Agorodd yr orsaf bresennol ym 1964 a, hyd yma, nid yw wedi ei haddasu rhyw lawer ers hynny.

Meddai Simon Smith, Prif Swyddog Tân: "Rydym wrth ein boddau gyda'r cyfleusterau newydd yng Nglannau Dyfrdwy a'r ffaith ein bod wedi medru sefydlu partneriaeth ar y safle gyda'n cydweithwyr yn yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans.

Mae'r orsaf yn cynnwys cyfleusterau modern rhagorol i'r staff sy'n gweithio yn y lleoliad, ynghyd ag ystafelloedd cyfarfod i grwpiau cymunedol eu defnyddio. Yn ychwanegol at ymateb i ddigwyddiadau, mae rhwystro tanau rhag cychwyn yn y lle cyntaf yn rhan hollbwysig o waith y gwasanaeth tân ac achub modern - felly mae creu cysylltiadau agosach gyda'r cymuned yn hanfodol i'r gwaith i amddiffyn trigolion lleol.

Mae cyd-leoli staff y gwasanaeth tán ac achub gyda phartneriaid gwasanaethau argyfwng yn dod â nifer o fanteision, yn gyfundrefnol ac i'r cyhoedd.

Mae'r orsaf newydd yn hygyrch i bawb yn y gymuned a mae trigolion lleol yn medru defnyddio'r ddwy ystafell gymunedol.

Gwaith yn y gymuned:

Pob blwyddyn mae gorsaf Glannau Dyfrdwy yn trefnu Noson Tân Gwyllt i godi arian at elusennau lleol.  Maent hefyd yn cymryd rhan mewn nifer  helaeth o ddigwyddiadau i godi arian at Elusen y Diffoddwyr Tân yn cynnwys y diwrnodau golchi ceir cenedlaethol sydd yn cael eu cynnal ddwywaith y flwyddyn.

Maent hefyd yn croesawu ymweliadau gan grwpiau lleol megis y beavers a'r sgowtiaid yn rheolaidd.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen