Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Biwmares

BeaumarisGorsaf Dân Biwmares

Cyfeiriad:

Stryd Newydd
Biwmares
LL58 8EL

Ffôn: 01745 535250

Manylion Criw:

Mae Gorsaf Dân Abermaw yn rhan o'r System Dyletswydd yn Ôl y Galw.

Mae Diffoddwyr Tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw yn unigolion medrus iawn sydd gan swyddi cyffredin o ddydd i ddydd, ond sydd hefyd ar gael i ymateb i alwadau gyda'r nos, yn ystod  y dydd ac/neu ar benwythnosau.

Yr Ardal Ddaearyddol a Wasanaethir:

Biwmares, Llangoed, Penmon a Llanddona (De ddwyrain yr ynys).


Safleoedd o Risg:

Fferm Bysgod Blue Water, Gwesty a Chartrefi Preswyl a sawl eiddo
gwledig anghysbell.

 

Hanes yr Orsaf:

Codwyd yr adeilad presennol ym 1870 fel ysgol ac fe'i newidiwyd yn orsaf dân gan Gyngor Sir Ynys Môn ym 1962. Ym mis Medi 2008, agorodd Ieuan Wyn Jones, aelod Cynulliad Ynys Môn yr orsaf dân ar ei newydd wedd, yn dilyn buddsoddiad o £430,000 i foderneiddio'r cyfleusterau. Cyn hynny, roedd yr orsaf dân wedi ei lleoli 500 llath rownd y gornel mewn garej fechan ac fe'i sefydlwyd ym 1863 gan Syr Richard Williams Bulkeley. Roedd yr injan yn cael ei thynnu gan geffyl ac roedd gan ddiffoddwyr tân yr hawl i gymryd y ceffyl agosaf pe caent eu galw allan.

Roedd y diffoddwyr tân i gyd yn wirfoddolwyr oedd wedi eu hyswirio gan y cyngor bwrdeistref ac yn cael eu talu 1/- am fynychu'r ymarfer misol, ynghyd ag arian yn lle'u cyflog pan fyddent ar ddyletswydd tân. Ym 1865 codwyd tâl o £1 ar berchnogion eiddo o fewn y fwrdeistref pan alwyd am y diffoddwyr tân ac roedd rhaid i'r rheiny y tu allan i'r ffiniau dalu £2.

Erbyn 1913 roedd y taliadau hyn wedi codi i ddwy gini a phum gini. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, daeth y frigâd dân yn gyfrifoldeb i'r Gwasanaeth Tân Cenedlaethol ac roedd diffoddwyr tân llawn amser yn gweithio yno gyda chymorth rhai rhan amser, a bu rhai ohonynt yn cynorthwyo yn ystod y Blitz yn Lerpwl.

Gwaith yn y gymuned

Mae diffoddwyr tân Biwmares yn helpu i gynnal y digwyddiad tân gwyllt blynyddol yn y dref a bydd grwpiau cymunedol fel y brownies yn ymweld â'r orsaf.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen