Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cefnogaeth Lles

Mae bywyd yn gallu bod yn gymysgedd o heriau ac mae rheoli eich hunan-les yn gallu bod yn olwyn ffair o emosiynau ar brydiau.  Cydnabu Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fod gan bob person iechyd meddwl, yn union fel iechyd corfforol, ac mae angen ei reoli a’i gydbwyso er mwyn i weithwyr ffynnu yn y gweithle a chyrraedd eu llawn botensial.

Mae lefel y cymorth lles a’r gefnogaeth wedi cael ei gydnabod gyda’r Wobr Blatinwm iechyd Corfforaethol. Mae hyn yn sicrhau fod pawb yn teimlo’u bod yn cael eu cefnogi a bod rhywun ar gael bob amser i gael sgwrs, yn ôl yr angen.

PENCAMPWYR Y GOLAU GLAS:

Gwirfoddolwyr o fewn y Gwasanaeth yw Pencampwyr y Golau Glas sy’n gweithredu i godi ymwybyddiaeth am broblemau iechyd meddwl ac yn herio stigma iechyd meddwl yn y gweithle.

CEFNOGAETH CYDWEITHIWR:

Cyniga’r cynllun Cefnogaeth Cydweithiwr fynediad preifat a chyfrinachol at rywun fydd yn wrandäwr cefnogol ac yn dangos dealltwriaeth. Gall weithwyr wirfoddoli i gael mynediad i’r cynllun unrhyw adeg i siarad am unrhyw faterion y byddant yn eu profi.

Mae unigolion o fewn y Gwasanaeth wedi ymgymryd â hyfforddiant arbenigol i helpu gydag unrhyw fater y gwelant yr angen i’w drafod yn gyfrinachol.

ADRODD YN ÔL YN DILYN DIGWYDDIAD ARGYFYNGUS:

Fel rhan o’i strategaeth lles cyfan, mae GTAGC yn cynnal cynllun adarodd yn ôl yn dilyn digwyddiad argyfyngus er mwyn cefnogi a helpu aelodau o staff allai fod wedi profi digwyddiad â photensial i fod yn drawmatig, neu ddigwyddiad lle gallai’r Cynllun fod yn addas neu’n fuddiol i’r unigolion perthnasol.

GOFAL YN GYNTAF:

Gofal yn Gyntaf (Care First) yw darparwr y Rhaglen Cymorth Gweithwyr y Gwasanaeth sy’n cynnig cefnogaeth emosiynol ac ymarferol ar gyfer materion yn y cartref neu’r gwaith. Mae’r gwasanaeth ar gael ar-lein, ac ar rif ffôn Rhadffôn, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

CYFEIRIAD AT ELUSEN ALLANOL:

Byw Heb Ofn

0808 80 10 800

llyw.cymru/bywhebofn

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen