Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diffoddwyr Tân Ar-Alwad

Beth yw rôl y Ddiffoddwr Tân Ar-Alwad?

Mae Diffoddwyr Tân Ar-Alwad yn unigolion medrus sy'n dod o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd ac yn cynnwys athrawon, ffermwyr, gweinyddwyr a rhieni sy'n aros adref i warchod plant. 

Fodd bynnag, maent hefyd yn darparu gwasanaeth wrth gefn gyda'r nos, yn ystod y dydd a dros y penwythnos er mwyn helpu i amddiffyn y cymunedau maent yn byw neu'n gweithio ynddynt. 

Pobl gyffredin ydynt sy'n cyfrannu eu hamser sbâr er mwyn gwneud gwaith eithriadol.

Maent yn barod i fynd allan y foment mae neges yn dod trwodd ar eu peiriant galw - efallai eu bod gartref neu'n gweithio mewn man arall, naill ai iddyn nhw eu hunain neu i rywun arall mewn amrywiaeth o wahanol rolau. Maent wedi eu hyfforddi'n llawn, ac yn staff gyda lefel uchel o sgiliau, sy'n ymroddedig i achub bywydau ac eiddo rhag tân a sefyllfaoedd argyfyngus eraill.

Maent yn chwarae rhan yn y gwaith o rwystro tanau, yn enwedig yn y cartref. Rhan allweddol o'r rôl yw ymgymryd ag archwiliadau diogelwch tân yn y cartref, gan roi cyngor am ddim i drigolion ar sut i ddileu neu leihau'r risg o dân.

Mae ein Diffoddwyr Tân Ar-Alwad yn aelodau ymroddedig o dîm agos, wedi ei hyfforddi'n dda, gydag offer modern a'r dechnoleg ddiweddaraf - maent yn ymroddedig i lwybr gyrfa broffesiynol gyda chymorth i fedru datblygu a chyrraedd eu potensial llawn yn y gwasanaeth tân ac achub.

 

Gwyliwch y fideo yma i ddarganfod mwy:

 

 

Oes gennych chi'r hyn sydd ei angen er mwyn bod yn Ddiffoddwyr Tân Ar-Alwad gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru?

Ydych chi'n 18 oed neu drosodd?

Ydych chi'n byw neu'n gweithio o fewn 5 munud o amser teithio i orsaf dân ran amser?

Oes gennych chi lefel dda o ffitrwydd cyffredinol?

Ydych chi'n chwilio am gyfle cyffrous yn eich amser sbâr?

Oes gennych chi ddiddordeb mewn amddiffyn eich cymuned?

Oes gennych chi wir ddiddordeb mewn cyfarfod pobl?

Ydych chi'n gallu dod ymlaen â phobl o wahanol ddiwylliannau a chefndiroedd?

Oes gennych chi sgiliau Cymraeg sylfaenol neu ydych chi'n barod i weithio tuag at hyn?

Ydych chi eisiau gweithio fel rhan o dîm agos?

Allwch chi weithio o dan bwysau?

Allwch chi feddwl yn gyflym a datrys problemau pan fyddwch yn gwybod bod llawer iawn yn dibynnu ar yr awgrymiadau y byddwch yn eu cynnig?

Oes gennych chi'r sensitifrwydd i ddelio ag aelodau o'r cyhoedd pan maent mewn trallod, wedi drysu neu'n achosi rhwystr?

Allwch chi gymryd cyfrifoldeb am gynrychioli'r Gwasanaeth pan fyddwch yn y gwaith a phan nad ydych yn gweithio?

Ydych chi wedi ymrwymo i gynnal a datblygu eich sgiliau?                         

Ydych chi'n barod am yr her o weithio i wasanaeth mewn lifrai disgybledig lle bydd yn rhaid i chi ddilyn cyfarwyddiadau gan rywun arall?

Allwch chi dderbyn yr angen i gadw at reolau sy'n dweud wrthych beth allwch chi a beth na allwch chi ei wisgo?

Ydych chi wedi ymrwymo i fod yn iach ac yn heini?

Ydi ymarfer corff rheolaidd yn rhan o'ch bywyd pob dydd?

Ydych chi'n berson ymarferol sy'n hoffi gweithio gyda'i ddwylo/offer?

Ydych chi'n hoffi gwneud pethau neu'n hoffi gweld sut mae pethau'n gweithio?

Ydych chi'n rhywun y gellir dibynnu arnynt i fod yn rhywle ar amser?

Ydych chi'n rhywun mae eraill yn gallu dibynnu arnynt?

Ydych chi'n fodlon gweithio tu allan yn yr awyr agored ymhob tywydd?  

           

Os ateboch chi'n gadarnhaol i'r holl gwestiynau uchod, a'ch bod yn meddwl bod gennych chi'r hyn sydd ei angen er mwyn gallu gwasanaethu ac amddiffyn y gymuned yr ydych yn byw neu'n gweithio ynddi, mae'n debyg eich bod yr union math o berson yr ydym yn chwilio amdanynt! 

Rydym yn chwilio am bobl frwdfrydig sy'n gallu dangos ymrwymiad ac ymroddiad i ymuno â'n timau o ddiffoddwyr tân ledled Gogledd Cymru, fel diffoddwyr tân ar alwad yn eu gorsaf leol. Rydym yn awyddus i recriwtio pobl sy'n cynrychioli'r gymuned amrywiol rydym yn ei gwasanaethu.

 

Pa lefel o ymrwymiad sydd ei hangen?

Mae Diffoddwyr Tân Ar-Alwad yn cytuno bod ar gael am nifer benodol o oriau yr wythnos, maent yn cael peiriant galw a rhaid iddynt allu cyrraedd yr orsaf dân o fewn pum munud i alwad yn ystod yr oriau maent wedi cytuno i fod ar gael.

Mae llawer yn ymateb i alwadau argyfwng o' gartref, ac eraill gyda cytundeb eu cyflogwyr yn ymateb oddi wrth eu man gwaith. Yn ogystal â darparu oriau ar alwad, mae'n ofynnol i ddiffoddwyr tân rhan amser i fynychu nosweithiau dril unwaith yr wythnos. Mae nosweithiau dril yn parhau am dair awr ac mae rhain  yn cael eu ddefnyddio i ddatblygu sgiliau a hyfforddiant.

Mae'r rôl yn galw am ddewrder, penderfyniad, hunan-gymhelliad ac yn fwy na dim, dymuniad i amddiffyn y gymuned lle maent yn byw a gweithio. Mae ein diffoddwyr tân yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr yn y cymunedau lle maent yn gwasanaethu.

Rhaid bod ganddynt safon dda o ffitrwydd corfforol a'r gallu i basio profion gallu.

Copi o'r Llawlyfr Gwybodaeth Recriwtio i Ddiffoddwyr Tân RDS

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen