Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Oriau a Thâl

Mae Diffoddwyr Tân Ar-alwad yn cychwyn ar raddfa dal hyfforddai a bydd yn symud ymlaen at raddfa dal datblygiad yn dilyn cwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol Ar-alwad yn llwyddiannus. Bydd tal yn aros ar raddfa datblygiad nes yr ystyrir fod yr unigolyn wedi cyflawni cymhwysedd yn y rôl. Ar gyfartaledd, bydd diffoddwr tân ar lefel datblygiad yn cymryd rhwng 18 a 24 mis i gyflawni lefel cymhwysedd.

Graddfeydd tal ar gyfer lefel datblygiad a chymhwysedd i ddiffoddwyr Tân Ar-alwad o Orffennaf 1af 2021.

Tal

Graddfa Dal Datblygiad

Graddfa Dal Cymhwysedd

Tal cadw flynyddol (telir yn fisol)

Cadw’n llawn* - £2,520 y flwyddyn

Cadw’n rhannol** - £1,890 y flwyddyn

Cadw’n llawn * - £3,224 y flwyddyn

Cadw’n rhannol ** - £2,418 y flwyddyn

Tal hyfforddiant a datblygiad (am bresenoldeb o 3 awr ar noson dril)

£34.53 am bob noson dril

£44.16 am bob noson dril

Tal am droi allan
(graddfa’n daladwy am yr 1 awr a 15 munud cyntaf o bresenoldeb mewn digwyddiad)

£15.75 am bob troi allan

£18.96 am bob troi allan

Graddfa fesul awr
(graddfa’n daladwy mewn blociau o 15 munud o £3.68 ar ôl yr 1 awr a 15 munud cyntaf o bresenoldeb mewn digwyddiad)

£11.51 yr awr

£14.72 yr awr

Tal presenoldeb (graddfa taladwy am bresenoldeb mewn gorsaf dân o fewn amser ymateb rhesymol, ond heb fod angen mynd i ddigwyddiad)

£10.00 yr awr

£11.60 am bob mynychiad

Ar-alwad llawn – telir y tal cadw blynyddol i Ddiffoddwyr Tân Ar-alwad sy’n cynnig 120 awr neu fwy ar gyfartaledd neu fwy o argaeledd yr wythnos.

Ar-alwad yn Rhannol - telir y tal cadw blynyddol i Ddiffoddwyr Tân Ar-alwad sy’n cynnig llai na120 awr  ar gyfartaledd o argaeledd  yr wythnos.

Oriau Gwaith Ar-Alwad

Mae ein Diffoddwyr Tân ar alw yn darparu gwasanaeth 'ar-alwad' am nifer penodol o oriau’r wythnos (cyfeirir at hyn fel 'argaeledd'); maent yn cario teclyn galw ac mae'n rhaid iddynt gyrraedd yr orsaf dân ymhen 5 munud o gael eu galw yn ystod eu horiau argaeledd. Mae nifer o ddiffoddwyr tân ar alw  yn ymateb i argyfyngau o'r cartref ac eraill, gyda chaniatâd eu cyflogwr, o'r gwaith.

Yn ogystal â darparu gwasaneth ar-alwad, maent yn mynychu nosweithiau ymarfer unwaith yr wythnos. Mae'r nosweithiau ymarfer yn para 3 awr ac yn ystod yr oriau hyn maent yn cael datblygu eu sgiliau a derbyn hyfforddiant.

Mae'n rhaid i'n Diffoddwyr Tân Ar Alwad allu cyrraedd yr orsaf dân ymhen 5 munud o gael eu galw allan a dim ond o dan amgylchiadau prin y gall y Gwasaneth gynyddu'r amser ymateb hwn. Un o'r ffactorau a fyddai'n ein caniatáu i ymateb yr amser ymateb gyda disgresiwn fyddai'r lefelau staffio ar yr orsaf a'i lleolid, fodd bynnag, mae'n rhaid i'r Gwasanaeth ystyried yr holl risgiau ac opsiynau gwydnwch sydd ar gael ar sail unigol.

Os oes gennych chi swydd barhaol arall mae'n rhaid i chi drafod eich cais gyda'ch prif gyflogwr a chael eu caniatád nhw i ddarparu gwasanaeth yn ystod oriau gwaith.

Am fwy o wybodaeth am Ddifodd Tân Ar-alwad, ewch i dudalen Diffoddwyr Tân Ar-Alwad os gwelwch yn dda:

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen