Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Ni fydd fy nghyflogwr i'n hapus os fyddaf i allan drwy'r nos mewn tân ac yn dod i'r gwaith wedi blino.

Dydi diffoddwyr tân ddim yn aros mewn digwyddiadau am gyfnodau hir mwyach. Cydnabyddir fod cyfnodau hir o ymdrechu'n gallu arwain at ddamweiniau oherwydd blinder a diffyg canolbwyntio. Mewn digwyddiadau hir, mae personél yn cael eu rhyddhau o'u dyletswyddau ar ôl 4 awr o waith lle bynnag sy'n bosib.

Faint o ymrwymiad fyddwch chi'n ei ddisgwyl gennyf i?

Mae cytundebau'r System Dyletswydd Rhan Amser unai 75% sy'n llai na 120 awr yr wythnos neu 100 sy'n 120+ yr wythnos.

Mae gen i lawer o ymrwymiadau teuluol; a fydd y System Dyletswydd Rhan Amser yn cyfaddawdu cydbwysedd gwaith/bywyd?

Fel cyflogwr i dros 1000 o bobl, mae'r Gwasanaeth yn deall y pwysau o fywyd dydd i ddydd a'r angen i gael cydbwysedd bywyd a gwaith iach. Yn ddibynnol ar argaeledd y peiriant, gellir cael gwyliau byr gan eich Rheolwr Gwylfa.

A ydy Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal?

Ydy, mae copïau o'n polisi cyfleodd cyfartal i'w weld ar ein gwefan.

Beth sy'n digwyddwyd os fyddaf i'n ymuno ond yna'n cael trafferth gyda rhai agweddau o'r swydd, fyddaf i'n cael fy niswyddo?

I gychwyn, na, mae gennym ni bolisi yn ei lle os adnabyddir fod gennych chi anawsterau mewn un neu ragor o elfennau o'ch gwaith, byddwch chi'n cael cynllun datblygu. Bydd gan y cynllun dargedau penodol a therfyniadau amser realistig. Os fyddwch chi'n parhau i gael materion datblygu ar ôl diwedd y rhaglen, yna efallai byddwn ni'n cychwyn protocol cymhwysedd fydd yn arwain at derfyniad eich cytundeb os na fydd unrhyw gynnydd yn cael ei wneud.

Os fyddaf i'n gwneud cais am ffurflen gais, beth sy'n digwydd wedyn?

Bydd Rheolwr Ardal yn gyfrifol am eich ardal yn asesu'r argaeledd rydych wedi ei nodi yn erbyn gofynion yr orsaf fydd yn pennu sut fydd eich cais yn cael ei brosesu.

Sut ydw i'n datblygu fy hunan yn y dyfodol ar gyfer swydd oruchwylio?

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru'n gweithredu proses Adolygu Datblygiad Unigol ymgymerir â hi gan holl staff gweithredol yn flynyddol. O'r cyfweliad yma, bydd eich rheolwr llinell yn gallu pennu'r ffyrdd gorau posib i chi ddatblygu eich hunan. Ynghyd gyda'r adolygiad blynyddol, mae'r Gwasanaeth yn cynnal dyddiau asesu Rheolwr Goruchwylio y gallwch chi fynychu unwaith fyddwch chi'n gymwys yn eich swydd bresennol.

Ar y funud rydw i’n hawlio budd-dal i’r di-waith. Alla i barhau i hawlio’r budd-dal os ydw i’n cael fy nghyflogi i fod ‘ar alwad’? 

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol (Universal Credits),gallwch barhau i wneud hynny ac ni fydd cyfyngiad ar nifer yr oriau y gallwch chi eu gweithio’r wythnos. Bydd eich budd-dal yn gostwng wrth i chi ennill mwy o dâl.  Ni fyddwch yn colli’ch budd-dal yn gyfan gwbl os ydych ar incwm isel. Mae’r Credyd Cynhwysol wrthi’n disodli’r budd-daliadau eraill sydd ar gael ar hyn o bryd, fodd bynnag, os ydych yn hawlio budd-daliadau eraill, cysylltwch â’r  Ganolfan Waith neu’r Swyddfa Credydau Treth am gyngor ar y goblygiadau sydd ynghlwm â gweithio fel Diffoddwr Tân Ar Alwad.

Ffynhonnell: https://www.gov.uk/universal-credit/overview 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen