Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Proses Ddethol

Bydd y Gwasanaeth yn recriwtio Diffoddwyr Tân Llawn Amser cyn bo hir. Bydd dolen i'r porth cofrestru ar-lein yn cael ei bostio yma pan fydd y broses recriwtio ar agor.

Sylwch ein bod ni bob amser yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alw ac y gallwch gofrestru ar-lein yma

Cam 1 – Cofrestru Ar-lein

Yn ystod y broses Cofrestru Ar-lein fe ofynnir i chi ddarparu eich manylion personol ac i lenwi Rhagolwg Swydd Realistig sy’n eich galluogi chi i hunan asesu pa mor addas ydych chi ar gyfer y rôl – mae’r canlyniadau hyn yn breifat ac i chi eu hystyried yn unig. Os byddwch yn penderfynu parhau, gofynnir ychydig o gwestiynau sylfaenol i chi er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn gymwys i ymgeisio.

Asesiad Cymhwysedd

  • Er mwyn ymgeisio mae’n rhaid i chi ddangos tystiolaeth o’r canlynol:
  • Eich bod yn 18 oed neu drosodd
  • Bod  gennych yr hawl i weithio yn y DU 
  • Eich bod chi'n ddigon iach yn gorfforol, meddyliol a meddygol i basio'r profion ffitrwydd cenedlaethol a'r asesiad meddygol - mae gwybodaeth am y profion a'r asesiad ar gael yn www.gwastan-gogcymru.org.uk
  • Eich bod chi'n gallu gyrru ac a oes gennych chi drwydded ddilys
  • Eich bod chi'n gallu pasio gwiriad DBS Sylfaenol - rhaid i chi ddatgan unrhyw euogfarnau sydd heb eu disbyddu; ewch i www.disclosurecalculator.org.uk  i wirio a ydi euogfarn wedi ei disbyddu
  • Eich bod chi’n allu arddangos rhinweddau a phriodoleddau personol sydd yn cyd-fynd â’n Gwerthoedd Craidd – mae gwybodaeth am ein Gwerthoedd Craidd ar gael ar ein gwefan
  • Parodrwydd i ymrwymo i’n cynllun iaith Gymraeg sydd yn mynnu bod pob recriwt newydd yn gallu ennill sgiliau Cymraeg lefel 2, siarad a gwrando, yn ystod cyfnod prawf o 12 mis (os nad ydynt eisoes wedi arddangos y sgiliau hynny wrth ymgeisio)-bydd cefnogaeth lawn a hyfforddant ar gael fel y bo’n briodol. Mae Cymraeg Lefel 2 y golygu gallu deall hanfodion sgwrs yn y gweithle. Ymateb i ofynion syml yn ymwneud â’r swydd a cheisiadau am wybodaeth ffeithiol.  Gofyn cwestiynau syml a deall ymatebiadau syml.  Mynegi rhywfaint o’ch barn cyn belled bod y pwnc yn gyfarwydd.  Deall cyfarwyddiadau pan ddefnyddir iaith syml

Ar ôl cwblhau’r Asesiad Cymhwysedd byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau eich bod yn gymwys i ymgeisio a symud ymlaen i’r camau nesaf. 

Noder na dderbynnir CV nac unrhyw geisiadau ar ffurfiau eraill.

Cam 2 – Asesiad Ar-lein 

Unwaith y bydd eich cymhwysedd yn cael ei gadarnhau, fe’ch gwahoddir i lenwi’r Asesiad Ar-lein llawn. Mae’r Broses Asesu Ar-lein yn cynnwys llenwi holiadur Arddulliau Ymddygiad, sy’n ymchwilio i’r mathau o ymddygiad yr ydych yn eu ffafrio o fewn amgylchedd gwaith - does dim angen unrhyw adolygu nac astudio ychwanegol ar gyfer yr elfen hon. Bydd hefyd angen i chi gwblhau Prawf Barnu Sefyllfa a fydd yn mesur eich gallu i wneud penderfyniad mewn sefyllfaoedd sy’n codi fel rhan o’r rôl - does dim angen unrhyw brofiad fel Diffoddwr Tân i gwblhau’r prawf a does dim angen adolygu ymlaen llaw. 

Cam 3 - Prawf Gallu Meddyliol

Ar ôl cwblhau’r Asesiad Ar-lein, byddwch yn cael gwahoddiad i fynychu'r Profion Gweithio gyda Gwybodaeth (PGG) yn un o safleoedd y Gwasanaeth Tân. Mae'r Profion Gweithio gyda Gwybodaeth yn cynnwys sawl elfen megis, deall gwybodaeth, gweithio gyda rhifau, datrys problemau ayb. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth i'ch helpu wrth baratoi fan

Llyfryn Ymarfer ar gyfer y Profion Cenedlaethol i Ddiffoddwyr Tân

Llyfryn Ymarfer ar gyfer yr Holiadur Cenedlaethol i Ddiffoddwyr Tân

 Os ydych chi eisoes yn Ddiffoddwr Tân cymwys, wedi eich cyflogi gan Wasanaeth Tân ac Achub Awdurdod Lleol, mae’n bosib y cewch basio’r cam yma.  

Cam 4 – Asesiad Gallu Corfforol 

Os byddwch yn llwyddiannus yng Ngham 3, byddwch yn cael gwahoddiad i fynd i'r diwrnod Asesiadau Corfforol ac Ymarferol (ACY). Mae'r profion ar y diwrnod hwn wedi'u cynllunio i asesu lefel eich ffitrwydd corfforol yn unol â gofynion y rôl. 

Mwy o wybodaeth am sut i baratoi ar gyfer y profion corfforol ac ymarferol

Gall diffodd tân fod yn weithgarwch corfforol trwm a pheryglus, ac mae yna botensial y byddwch yn dod i gysylltiad â llwythi thermol ffisiolegol ac amgylcheddol uchel. Er mwyn sicrhau perfformiad gweithredol effeithiol a diogel, mae lefel briodol o ffitrwydd corfforol yn hanfodol.

Os ydych chi eisoes yn Ddiffoddwr Tân cymwys, wedi eich cyflogi gan Wasanaeth Tân ac Achub Awdurdod Lleol, mae’n bosib y cewch basio’r cam yma.   

Asesiad Cymraeg

Mae’r gallu i ddangos sgiliau cwrteisi iaith Gymraeg sylfaenol yn ofyniad o’r swydd hon ac yn ddelfrydol bydd modd arddangos gallu lefel 2 yn y Gymraeg wrth wneud y cais; fodd bynnag, nid yw hyn yn hanfodol a ni fydd pobl di-Gymraeg dan anfantais.

 Asesir eich sgiliau Cymraeg un ai yn ystod y broses gyfweld un ai drwy gael cyfweliad cyfrwng Cymraeg neu drwy gwblhau asesiad byr yn y Gymraeg. Yna, defnyddir canlyniadau’r asesiad Cymraeg gan yr Adran hyfforddiant i sicrhau bod ymgeiswyr llwyddiannus yn cael y lefel briodol o gefnogaeth ac arweiniad er mwyn gallu cyflawni Cymraeg Lefel 2 o fewn eu cyfnod prawf.   

Gan nad ydi’r Gymraeg yn faen prawf hanfodol, mae’n bosib y cynhelir yr Asesiad Cymraeg yn gynharach neu’n hwyrach yn y broses gan ddibynnu ar ein hadnoddau.

Cam 5 - Cyfweliad Dethol

Os byddwch yn llwyddiannus yng Ngham 4, byddwch yn cael eich gwahodd am Gyfweliad Dethol. Yn ystod y cyfweliad, gofynnir cyfres o gwestiynau i chi sydd wedi’u cynllunio i fesur eich rhinweddau a’ch nodweddion personol. Mwy o  wybodaeth ar y rhinweddau a’r nodweddion gofynnol

Gofynnir cwestiynau i chi ynghylch eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o rôl y Diffoddwr Tân a byddwn yn asesu'ch sgiliau cyfathrebu drwy gydol y cyfweliad. Gallwch ddewis cael eich cyfweld yn Gymraeg neu Saesneg.

Cam 6 – Gwiriadau Meddygol a Chyn-Gyflogaeth

Os ydych yn llwyddiannus yng Ngham 5 byddwch yn cael eich gwahodd i Brawf Meddygol Cyn-Cyflogaeth gyda’n Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol.  Ni fyddwn yn trefnu Prawf Meddygol ar eich rhan oni bai eich bod yn cwrdd â’r safonau addas o ran golwg. 

Y prif ofynion ydi:

  • Aciwtedd gweledol o 6.9 yn y ddwy lygaid o leiaf
  • Golwg lliw da  (bydd rhaid i chi gwblhau asesiad golwg lliw os oes gennych chi nam ar eich golwg lliw)
  • Os ydych chi wedi cael llawdriniaeth laser ar eich llygaid, rhaid aros o leiaf 12 mis ar ôl dyddiad y llawdriniaeth cyn ymgeisio.  

Os nad ydych chi’n siŵr eich bod yn bodloni’r gofynion hyn, fe’ch cynghorir i gael cyngor optometrydd cymwys cyn gynted â phosibl. Yn ogystal â phrofion llygaid rhagarweiniol, mae’n bosib y byddant yn cynnal profion llygaid manwl yn ystod cam meddygol y broses.  

Mae’r gwaith o ddiffodd tanau yn gallu golygu gweithio mewn amgylcheddau  gelyniaethus a pheryglus lle mae’r pwysau corfforol a seicolegol yn eithafol. Er mwyn cydymffurfio gyda darpariaethau statudol perthnasol, mae’r broses sgrinio meddygol ar gyfer diffoddwyr tân yn llym iawn. O dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, mae’n rhaid i’r Gwasanaeth Tân ac Achub leihau’r risg cyn belled ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol. Golyga hyn  nad fyddai cyflwr meddygol a allai olygu risg gweithredol y mae modd ei ragweld yn dderbyniol.  Pennir addasrwydd meddygol gan asesiad unigol.   Am resymau ymarferol, ni ellir cyflawni’r rhain tan gamau olaf y Broses Recriwtio. Mae natur ac effaith cyflyrau meddygol yn amrywio ac felly nid yw’n bosib cadarnhau pa gyflyrau meddygol neu hanes o gyflwr meddygol sy’n debygol o achosi problemau, fe all y canllaw  isod eich helpu i ystyried eich addasrwydd meddygol cyn ymgeisio.

Ni fydd cyflwr  neu gyfyngiad meddygol yn dderbyniol os ydyw’n cynyddu’r risgiau gweithredol yn sylweddol, er gwaethaf unrhyw addasiadau rhesymol, megis:

  • Cwympo neu gael eich analluogi'n sydyn
  • Cyflwr sy'n amharu ar eichbarn neu'n altro'ch ymwybyddiaeth
  • Anaf/afiechyd corfforol neu seicolegol sylweddol   
  • Unrhyw gyflwr a all beryglu'ch iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill 

Bydd yr asesiad unigol yn golygu ystyried unrhyw farn neu adroddiadau meddygol yr ydych chi'n eu cyflwyno.  Fodd bynnag,  y Gwasanaeth Tân ac Achub fydd yn penderfynu pa mor arwyddocaol ydi unrhyw risgiau a ddaw i'r amlwg.  

Gwiriadau Cyn-Cyflogaeth

Bydd yn rhaid i chi gwblhau gwiriad cofnod troseddol DBS Sylfaenol.  Os na fyddwch yn bodloni’r gwiriad* (*os nad ydych wedi datgan euogfarnau sydd heb eu disbyddu) bydd eich cais yn cael ei dynnu’n ôl o’r Broses Ddethol. 

Yn unol â Gwerthoedd Craidd y Gwasanaeth ac yn unol â Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 a Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, nid yw’r Gwasanaeth yn eich gorfodi i ddatgan unrhyw euogfarnau sydd wedi dod i ben. I gadarnhau a ydy euogfarn wedi neu heb ei disbyddu ewch i www.disclosurecalculator.org.uk.

Bydd rhaid i chi roi enw a chyfeiriad dau ganolwr, a bydd yn rhaid i un ohonynt fod yn gyflogwr presennol i chi neu’ch cyflogwr mwyaf diweddar. Os na fydd y geirdaon yn foddhaol, byddwn yn gwneud ymholiadau pellach cyn eich penodi.

Cam 7 – Penodi

Os byddwch yn llwyddiannus ym mhob cam o'r broses recriwtio, bydd penodiadau yn amodol ar ffactorau (bydd y rhain wedi eu nodi yn y llythyr cyflogaeth, a bydd yn amodol ar gwblhau cyrsiau hyfforddi gorfodol a chyfnod prawf).  Os bydd unrhyw un o’r ffactorau hyn yn anfoddhaol fe all  y cynnig o swydd gael ei dynnu'n ôl.

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen