Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cwestiynau Cyffredin

Beth ydi’r isafswm oedran i ymgeisio?

Yr isafswm oedran ydi 18 ond does dim uchafswm oedran.


Beth ydi’r cyfyngiadau pwysau a thaldra?

Does dim cyfyngiadau taldra a phwysau; fodd bynnag mae pwysau iach yn bwysig oherwydd fe all bod o dan neu dros bwysau effeithio ar eich perfformiad fel diffoddwr tân, eich diogelwch a’ch iechyd cyffredinol.


Pa gymwysterau ydw i angen?

Ar gyfer prosesau cyffredinol i recriwtio diffoddwyr tân, nid oes angen cymwysterau penodol er mwyn gwneud cais, ond i fod yn llwyddiannus yn y broses ddethol bydd angen i chi lwyddo yn y Profion Dethol Cenedlaethol ar gyfer Diffoddwyr Tân. Mae’r rhain yn profi eich gallu ar gyfer y swydd, felly bydd angen cael sgiliau llythrennedd, rhifedd a datrys problemau sy’n cyfateb i Sgiliau Hanfodol Lefel 2 neu uwch. 

Ar adegau mae’r Gwasanaeth yn recriwtio ar gyfer rolau Diffoddwyr Tân lle mae angen cymwysterau, er enghraifft prentisiaethau uwch neu raglenni arweinwyr y dyfodol, ac yn yr achosion hyn bydd y cymwysterau gofynnol wedi eu nodi yn yr hysbyseb.


Pa brofiad ydw i angen i ymgeisio?

Dim profiad blaenorol gan fod hyfforddiant lawn yn cael ei ddarparu.


Faint fydd y broses recriwtio a dethol yn parhau?

Gall hyn amrywio yn dibynnu ar amseriad y swyddi gwag a dyddiadau cwrs recriwtiaid newydd. Bydd angen i ymgeiswyr gwblhau’r gwahanol gamau o’r broses recriwtio, sy’n cynnwys y Profion Dethol Cenedlaethol ar gyfer Diffoddwyr Tân a’r archwiliad meddygol.

Darllenwch y llyfryn gwybodaeth i Ymgeiswyr ar gyfer yr ymgyrch recriwtio i weld amserlen y camau recriwtio.


Faint o amser mae hi’n ei gymryd i hyfforddi?

Fe all hyn dibynnu ar allu’r unigolyn a dyddiad y cyrsiau,  fodd bynnag, mae hi fel arfer yn cymryd 18 - 24 mis i ddod yn Ddiffoddwr Tân cymwys.


Beth ydy’r cyflog cychwynnol?

Ar hyn o bryd, y cyflog cychwynnol i ddiffoddwr tân amser cyflawn dan hyfforddiant ydy £24,191 y flwyddyn. Ar ôl cymhwyso, y cyflog i ddiffoddwr tân cymwys ar hyn o bryd ydy £32,244 y flwyddyn (mae’r cyfraddau’n gywir fel yr oedd pethau ar adeg Dyfarniad Cyflog 2021).


Beth ydi’r oriau gwaith?

Mae diffoddwyr tân llawn amser yn gweithio 42 awr yr wythnos ar gyfartaledd. Gan ddibynnu ar eu swydd a’u gorsaf, byddant yn gweithio ar un o’r patrymau shifftiau canlynol:

  • System Dyletswydd Shifftiau – 2 ddiwrnod (9am-6pm), 2 noson (6pm – 9am) yna 4 cyfnod o 24 awr i ffwrdd
  • System Criw Dydd – 4 diwrnod ymlaen, yn gweithio 12:00-22:00 ac yn darparu gofal ar-alwad am weddill yr oriau (22:00 i 12:00) o fewn y diwrnodau ar ddyletswydd, yna 4 diwrnod i ffwrdd.
  • System Dyletswydd Wledig – 4 diwrnod ymlaen (6am-6pm a’r posibilrwydd o ofal ar-alwad am weddill yr oriau o fewn y 4 diwrnod os gofynnir am hynny ac os yw’n briodol), yna 4 diwrnod i ffwrdd

Yn gyffredinol, bydd diffoddwyr tân sydd newydd gael eu penodi yn dechrau naill ai ar y System Dyletswydd Shifftiau neu ar y System Criw Dydd. 


Ga i ddewis ym mha Orsaf i weithio?

Na. Bydd diffoddwyr tân yn cael eu rhoi mewn Gorsafoedd lle mae swyddi gwag. Hefyd, gallai fod angen i ddiffoddwyr tân symud i weithio mewn gorsafoedd eraill os oes angen.

Er bod ymgeiswyr yn gallu dweud pa system ddyletswydd neu leoliad sydd orau ganddynt, rhaid i ni ystyried ble rydym angen llenwi swyddi ac adolygu sgiliau’r holl weithwyr newydd a cheisio eu rhoi mewn gorsaf a gwylfa a fydd yn eu helpu i ddatblygu ymhellach.


Oes raid i mi fyw yng Ngogledd Cymru?

Na, ond fel diffoddwr tân byddwch chi’n cytuno i wasanaethu yn unrhyw orsaf yng Ngogledd Cymru. Os bydd angen i chi weithio yn un o’n gorsafoedd criw dydd, bydd angen i chi gael lle i fyw o fewn ardal ymateb addas i’r orsaf dân.


Oes rhaid i mi fod yn Ddinesydd Prydeinig i ymgeisio?

Caiff pobl o unrhyw genedligrwydd ymgeisio, cyn belled bod gennych chi’r hawl parhaol i aros  yn y DU heb gyfyngiadau.  Bydd rhaid i chi ddangos tystiolaeth o’ch hawl i weithio yn y DU yn ystod y broses recriwtio.


Ydi’r safonau ymgeisio yn wahanol i ddynion o gymharu â merched?

Na. Mae’r asesiadau a’r safonau y mae’n rhaid cwrdd â hwy'r un fath i bawb.


Ga’ i ymgeisio os oes gen i gofnod troseddol?

Dydi cofnod troseddol ddim o reidrwydd yn eich atal rhag dod yn Ddiffoddwr Tân. Rhaid i chi ddatgan unrhyw euogfarnau sydd heb ddod i ben o dan  Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Mae hyn yn cynnwys unrhyw droseddau yr ymdriniwyd â hwn mewn llys barn, trwy weithdrefnau disgyblu Gwasanaethau Ei Mawrhydi ac unrhyw droseddau gyrru. 

I weld a ydi euogfarn wedi dod i ben ewch i www.disclosurecalculator.org.uk

Cyn bod swydd yn cael ei gynnig, bydd gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn cael ei gwblhau.

Os daw euogfarn i’r amlwg nad ydych chi wedi datgelu, bydd eich cais yn cael ei dynnu yn ôl. 


Faint o heini sydd raid i mi fod?

Rhaid i chi fod yn eithaf ffit a chynnal eich lefelau ffitrwydd drwy gydol eich gyrfa fel diffoddwr tân. Rhaid i chi gwblhau gwerthusiad ffitrwydd i weld a ydi’ch gallu aerobig o leiaf VO2 lefel uchaf 42. Rhaid i chi gynnal pwysau iach a byw bywyd iach.  Gweler yr adran ffitrwydd am ragor o wybodaeth.


Mae gen i anabledd; ga’ i ymgeisio?

Cewch; bydd addasrwydd meddygol yn cael ei bennu yn dilyn asesiad unigol a fydd yn ystyried unrhyw sylwadau neu adroddiadau meddygol yr ydych chi wedi eu cyflwyno,

Rydym ni’n cydymffurfio’n llawn gyda’n dyletswyddau ar faterion yn ymwneud â chydraddoldeb yn unol â’r ddeddfwriaeth bresennol, yn benodol Deddf Cydraddoldeb 2010. 

Ni all y Gwasanaethau Tân ac Achub  addasu gofynion hanfodol y rôl, sydd wedi eu nodi yn y ‘Manyleb Person’ yn y Swydd Ddisgrifiad, na’r Safonau Ffitrwydd sy’n cael eu gosod yn genedlaethol. Mae’r gofynion a safonau hyn wedi cael eu gosod i sicrhau bod unigolion yn ddiogel wrth eu gwaith, er eu diogelwch hwy eu hunain  ac eraill. 

Mae gwybodaeth am y safonau hyn ar gael ar ein gwefan. Os oes gennych chi anabledd a’ch bod yn teimlo y gallwch gwrdd â’r gofynion hanfodol sydd wedi eu nodi yn y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, ond bod y broses asesu yn eich atal rhag arddangos eich gallu yn llawn, mae’n bosib y gallwn ystyried unrhyw addasiadau rhesymol i’r broses.  I sicrhau ein bod ni’n darparu’r gefnogaeth angenrheidiol, gofynnir i chi roi gwybod i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am yr anghenion penodol hyn ymlaen llaw.

Ni fydd cyflwr  neu gyfyngiad meddygol yn dderbyniol os ydyw’n cynyddu’r risgiau gweithredol yn sylweddol, er gwaethaf unrhyw addasiadau rhesymol, megis:

  • Cwympo neu gael eich analluogi'n sydyn
  • Cyflwr sy'n amharu ar eich barn neu'n altro'ch ymwybyddiaeth
  • Anaf/afiechyd corfforol neu seicolegol sylweddol   
  • Unrhyw gyflwr a all beryglu'ch iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill 


Ga’ i ymgeisio os dwi’n gwisgo sbectol?

Bydd rhaid i chi gael Ffurflen Safonau Golwg gan optegydd cymwys. Y prif ofynion o ran golwg ydi:

  • Aciwtedd gweledol o 6.9 yn y ddwy lygad o leiaf
  • Golwg lliw da  (bydd rhaid i chi gwblhau asesiad golwg lliw os oes gennych chi nam ar eich golwg lliw)
  • Os ydych chi wedi cael llawdriniaeth laser ar eich llygaid, rhaid aros o leiaf 12 mis ar ôl dyddiad y llawdriniaeth cyn ymgeisio.
     

Mae gen i ddyslecsia; fydda i’n derbyn unrhyw gefnogaeth?

Mae dyslecsia yn cael ei ystyried fel anabledd a byddwn yn gofyn a oes gennych chi anabledd fel rhan o’r broses recriwtio.  Pan fyddwch chi’n cwblhau’r profion wedi eu hamser byddwn yn gofyn a ydych chi’n dioddef o ddyslecsia ac fe ddylech chi ateb “ydw”.  Byddwn wedyn yn gofyn i chi gysylltu gyda ni’n uniongyrchol wedi hyn fel y gallwn wneud addasiadau rhesymol, megis rhoi mwy o i chi gwblhau’r asesiadau,  Bydd rhaid i chi ddangos tystiolaeth eich bod chi â dyslecsia.
 

Mae gen i farf am resymau crefyddol; fydd rhaid i mi ei siafio er mwyn bod yn Ddiffoddwr Tân?  

Fel diffoddwr tân, bydd angen i chi wisgo cyfarpar amddiffyn anadlu, gan gynnwys mwgwd wyneb pan fyddwch chi’n gwisgo offer anadlu. Rhaid i ddiffoddwyr tân gweithredol fod wedi siafio oherwydd gall blew rwystro’r mwgwd rhag selio o gwmpas yr wyneb a gadael cemegau awyrol peryglus i mewn. Er ein bod yn parchu anghenion crefyddol, ni chaniateir blew uwchben y wefus uchaf pan fyddwch ar ddyletswydd, a hynny am resymau iechyd a diogelwch.


Mae gen i sawl tatŵ; a fydd hyn yn broblem?

Mae tatŵs yn dderbyniol ar yr amod na ellid eu hystyried yn dramgwyddus. Mae tatŵs yn annerbyniol os ydynt yn anghwrtais, yn amrwd, yn hiliol, yn rhywiaethol, yn sectorol, yn homoffobig neu'n dreisgar.


Dwi wedi cael tyllu fy nghorff sawl gwaith; a fydd hyn yn broblem?

Am resymau iechyd a diogelwch, rhaid tynnu pob twll mewn gwahanol rannau o’r corff cyn dechrau gweithio.

Mae fy ffydd yn gofyn i mi ddyrannu adegau penodol o'r dydd ar gyfer gweddi; a fydd hyn yn cael ei ddarparu?

Oherwydd natur y rôl, efallai y bydd adegau pan nad yw hyn yn bosibl. Fodd bynnag, rydym yn cefnogi gweithwyr sy'n dymuno gweddïo yn y gwaith i gydbwyso eu credoau unigol ag anghenion gweithredol.


Os oes raid i mi ymprydio oherwydd fy ffydd, alla i fod yn ddiffoddwr tân? 
 

Gallwch chi ymprydio, ond mae’n bwysig fod holl aelodau’r Gwasanaeth yn gallu cyflawni eu gwaith craidd tra maent ar ddyletswydd. Mae’n bwysig cydnabod bod dadhydradu’n gallu effeithio’n gyflym ar rywun. Gallai unigolyn gredu ei fod yn hollol iawn ond gallai ddioddef effeithiau niweidiol dadhydradu yn gyflym. Mae Diffoddwyr Tân sy’n Ymprydio yn sicrhau bob amser fod eu cydweithwyr a hwythau’n ddiogel drwy reoli lefelau eu hegni a’u hydradiad pan fo angen. Rydym yn annog staff sy’n dewis ymprydio i drafod hyn gyda’u rheolwr llinell. Mae cyfrifoldeb ar weithwyr i fod yn ffit ar gyfer dyletswydd, a phan fo ymprydio wedi amharu ar aelod o staff, rhaid iddo ddweud wrth ei reolwr ar unwaith. 


Fel Sikh yn ôl gair a gweithred, alla i fod yn ddiffoddwr tân a gwisgo tyrban?

Mae cymal newydd yn y Bil Dadreoleiddio 2015 yn ymestyn yr eithriad presennol i Sikhiaid orfod gwisgo helmed diogelwch o dan y Ddeddf Gyflogaeth ymhob gweithle. Fodd bynnag, mae eithriadau ar gyfer gwasanaethau ymateb brys a’r fyddin, sy’n gymwys dim ond mewn sefyllfaoedd gweithredol peryglus pryd ystyrir bod gwisgo helmed diogelwch yn angenrheidiol, er enghraifft wrth fynd i mewn i adeilad sydd ar dân pan fo angen gwisgo dillad amddiffynol am y corff cyfan.


Oes raid i mi allu siarad Cymraeg?

Yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, rydym yn credu y dylid, wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, trin y Gymraeg a'r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal. Mae achub bywydau a lleihau risg yn ganolog i’n cenhadaeth – mae’r iaith yn hanfodol i’w llwyddiant.

Mae dyletswydd statudol arnom  i gydymffurfio â s set o Safonau’r Gymraeg cenedlaethol a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg. Fel rhan o'n  hymrwymiad i'r iaith Gymraeg, rhaid i bob aelod newydd o staff allu arddangos sgiliau cwrteisi Level 2 neu uwch yn y Gymraeg. Bydd rhaid i bob diffoddwr tân newydd gyrraedd Lefel 2 cyn diwedd eu cyfnod prawf.

Mae’r asesiad ar Lefel 2 yn cynnwys prawf llafar byr gydag asesydd – ceir rhagor o gymorth a chefnogaeth ar y tudalennau Cymraeg ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, yn ogystal â rhagor o gymorth a chefnogaeth gan ein Hyrwyddwyr y Gymraeg. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi unigolion cymaint ag y gallwn i gyrraedd y lefel ofynnol. Bydd ymgeiswyr allanol yn cael cymorth priodol i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Ceir rhagor o wybodaeth am y gofynion o ran y Gymraeg are ein gwefan.


Oes bosib trosglwyddo o wasanaeth tân ac achub arall?

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cadw rhestr drosglwyddo ar gyfer diffoddwyr tân cyfredol sy’n dymuno trosglwyddo i Ogledd Cymru o Wasanaethau Tân ac Achub eraill yn y Deyrnas Unedig. Oni ddywedir fel arall yn ystod ymgyrch hysbysebu, bydd angen i ymgeiswyr sydd eisiau cael eu hystyried am swyddi amser cyflawn i gofrestru drwy’r broses ymgeisio er mwyn cael eu hystyried am swydd amser cyflawn fel rhan o ymgyrch recriwtio.

Os hoffech gael eich hychwanegu i’r rhestr drosglwyddo i gael eich hystyried ar gyfer trosglwyddiad yn y dyfodol cysylltwch â hrdesk@tangogleddcymru.llyw.cymru gyda’r wybodaeth isod:

  • Enw llawn (gan gynnwys teitl)
  • Cyfeiriad llawn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhif ffôn
  • O ble yr ydych am drosglwyddo
  • Eich rôl bresennol
  • Lleoliad dymunol
  • Sylwadau perthnasol


Pryd fydd y broses Recriwtio Diffoddwyr Tân Amser Cyflawn nesaf?

Does dim dyddiadau penodol ar gyfer cynnal prosesau recriwtio ar gyfer diffoddwyr tân amser cyflawn. Caiff pob swydd wag i ddiffoddwyr tân, gan gynnwys rhai amser cyflawn a phrentisiaid, yn ogystal â staff cefnogol, eu hysbysebu ar y dudalen Swyddi Gwag Recriwtio - Amdanom Ni - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (gov.wales) ac ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol, o leiaf.


Fydda i’n cael fy rhoi ar restr gadw ac os byddaf, am faint y bydd hon yn ddilys?

Dim ond manylion ymgeiswyr a lwyddodd ymhob cam o’r broses recriwtio a dethol a fydd yn cael eu rhoi ar restr gadw. Gellir cynnig cyflogaeth oddi ar y rhestr gadw wrth i swyddi godi o fewn cyfnod penodol, ond nid oes sicrwydd o gyflogaeth.   


Fydda i’n gallu cael gwybod beth oedd fy marc llwyddo?

Nid yw’r Gwasanaeth mewn sefyllfa i ddatgelu marciau llwyddo unigol ar gyfer yr ymgyrch recriwtio hon, ond mae’r ddogfen adborth cais ar-lein (a gewch mewn neges e-bost ar wahân) yn dweud ym mha safle canraddol oeddech chi. Bydd hyn yn un o’r grwpiau canlynol: ymhell o dan y cyfartaledd, o dan y cyfartaledd, y cyfartaledd, uwchben y cyfartaledd, ymhell uwchben y cyfartaledd. 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen