Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Prentisiaeth Cysylltiadau Cyhoeddus

CADWCH LYGAD AR EIN ADRAN SWYDDI GWAG DIWEDDARAF AM CYFLEOEDD PRENTISIAETHAU

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig Prentisiaeth Cysylltiadau Cyhoeddus yn amgylchedd cyflym ei adran Cyfathrebiadau Corfforaethol.

Bydd y prentis yn dilyn rhaglen 15 mis, a fydd yn cynnig profiad o gyfathrebiadau gwasanaethau brys a chyfle i ennill cymhwyster achrededig ac adnabyddus gan y Gymdeithas Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu (PRCA), sef Prentisiaeth Lefel 4 Uwch.

Delio gyda’r wasg yn ystod digwyddiadau mawr neu gynllunio ymgyrch i gadw grwpiau bregus yn ddiogel yn y gymuned, mae cyfathrebu ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn heriol ac yn rhoi boddhad.

Mae’r Tîm Cyfathrebiadau Corfforaethol yn darparu cyfathrebiadau o safon yn y meysydd cysylltiadau cyhoeddus, delio gyda’r cyhoedd a chyfathrebiadau mewnol. Mae’n rhaid i’n holl weithgareddau cyfathrebu fod yn werth chweil ac mae’n rhaid iddynt ein cefnogi i gyflawni ein hamcanion gweithredol, megis cadw pobl yn ddiogel rhag tanau yn y cartref, a chwilio am ffyrdd eraill o wella bywydau pobl drwy gydweithio gydag eraill.

Mae rôl y prentis yn datblygu sgiliau adweithiol a rhagweithiol, ar gyfer cynulleidfaoedd mewnol ac allanol, gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu traddodiadol gyda phwyslais gynyddol ar gysylltiadau digidol a’r feddylfryd diweddaraf ynghylch newid ymddygiad.

Cymwyseddau a sgiliau i'w harddangos:

Mae’n rhaid i brentisiaid fod rhwng 18 a 24 mlwydd oed

Yn ddelfrydol byddant yn meddu ar o leiaf 3 Lefel A neu gymwysterau cyfatebol
TGAU A*- C mewn Saesneg a Chymraeg neu gyfatebol
TGAU A* - C mewn Mathemateg neu gyfatebol
Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig
Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol ar sawl lefel
Gallu defnyddio pecynnau Microsoft Office a phrofiad o’r cyfryngau cymdeithasol a’r gallu i addasu i ddefnyddio amryw o blatfformau ar-lein
Creadigedd a dawn
Trefnus a gallu rheoli eu hamser
Hyblyg a pharodrwydd i ddysgu
Gallu gweithio’n fanwl gywir yn hyderus
Brwdfrydedd ac ymrwymiad
Unigolyn sy’n ‘gweld ei waith’ – rhywun sy’n gallu defnyddio’u menter eu hunain, egnïol ac a fydd yn gwneud yn fawr o’r cyfle • Rhugl yn y Gymraeg hyd at safon ALTE lefel 4
Trwydded yrru lawn a glân

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen