Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Prentisiaeth Diogelwch Cymunedol

CADWCH LYGAD AR EIN ADRAN SWYDDI GWAG DIWEDDARAF AM CYFLEOEDD PRENTISIAETHAU

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig Prentisiaeth Diogelwch Cymunedol gyda’r Tîm Diogelwch Cymunedol.

Yn ystod rhaglen deunaw mis, bydd y prentis yn cael cyfle i ddatblygu’n bersonol a datblygu gyrfa trwy weithio tuag at ennill gwobr Prentisiaeth Uwch Lefel 3 mewn Cyngor a Chyfarwyddyd.

Nod y Tîm Diogelwch Cymunedol yw darparu gwybodaeth i aelodau’r cyhoedd fel y gallant gadw’n ddiogel yn y cartref.

Mae’r gwasanaeth tân ac achub yn gweithio’n agos gyda’r gymuned i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â pheryglon tân a damweiniau eraill, a helpu i wneud yn siŵr bod Gogledd Cymru yn lle diogel i fyw, gweithio ac ymlwed ag o.  Y mae hyn yn helpu i leihau effaith tanau a pheryglon eraill ar gymunedau, wrth i bobl ddeall sut i’w hatal rhag digwydd yn y lle cyntaf a deall beth i’w wneud mewn argyfwng.

Mae’r Prentisiaid Diogelwch Cymunedol yn gweithio’n agos gyda chymunedau fel Cynghorwyr Diogelwch Cymunedol, sy’n darparu addysg a chyngor ar atal tanau, codymau, diogelwch ffyrdd a mentrau eraill.

Cymwyseddau a sgiliau i'w harddangos

Sgiliau TGCh hyfedr 
Trwydded yrru lawn a glân
Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig 
Cymraeg Lefel 2 Siarad a Gwrando - Mynnir eich bod yn gallu deall hanfodion sgwrs yn y gweithle. Ymateb i ofynion syml yn ymwneud â’r swydd a cheisiadau am wybodaeth ffeithiol. Gofyn cwestiynau syml a deall ymatebiadau syml. Mynegi rhywfaint o’ch barn cyn belled bod y pwnc yn gyfarwydd. Deall cyfarwyddiadau pan ddefnyddir iaith syml.

Bydd y brentisiaeth yn arwain at gymhwyster Cyngor a Chyfarwyddyd lefel 3 sy’n cael ei chydnabod yn genedlaethol.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen