Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Nam ar y Clyw

Mae larymau mwg cyffredin yn gweithio drwy wneud sŵn mawr pan fydd mwg yn cael ei ganfod, gan roi rhybudd cynnar a hollbwysig fod tân er mwyn helpu pobl i ddianc. 

Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw, mae ffyrdd ychwanegol o sicrhau y byddech chi’n gwybod bod tân yn eich cartref.

  • Os oes gennych nam ar eich clyw, gallwch chi gael larwm mwg sy’n defnyddio golau strôb a phadiau dirgrynol.
  • Os bydd tân, ac os bydd hi’n anodd i chi alw 999 eich hun, gofynnwch i gymydog wneud hynny.
  • Os oes gennych offer arbenigol, fel ffôn testun Minicom, gallwch chi gysylltu â’r gwasanaethau brys ar 18000.
  • Rhowch sticer lliw ar eich larwm mwg os ydych yn cael trafferth ei weld er mwyn ei brofi.
  • Ystyriwch osod ‘bump-ons’ (a elwir hefyd yn bothelli plastig) ar beiriannau fel ffordd o sicrhau eu bod wedi diffodd yn llwyr. Gosodwch bethau defnyddiol ar hyd eich llwybrau dianc a gwnewch yn siŵr eich bod yn teimlo’n gyfforddus yn eu dilyn, hyd yn oed os byddwch wedi blino yng nghanol y nos.
  • Gwnewch yn siŵr fod pob drws a choridor yn cael ei gadw’n glir.
  • Gwnewch gynllun B. Y drws ffrynt yw’r dewis cyntaf fel arfer, ond gwnewch gynllun B os bydd rhwystr ar gynllun A.
  • Dylai goriadau ar gyfer drysau a ffenestri gael eu cadw wrth yr allanfa.

 Byddwch yn barod – Ewch allan, arhoswch allan, ffoniwch 999

 Rhybuddio

Cofrestrwch ar gyfer y gwasanaeth SMS 999, a fydd yn eich cysylltu’n syth â’r gwasanaethau brys.

  • I gofrestru, tecstiwch ‘REGISTER’ i 999
  • Byddwch chi’n cael ateb – a dilynwch y cyfarwyddiadau

Gwnewch yn siŵr fod y gloch ar y drws ffrynt yn gweithio a’i bod yn un â’r sain wedi’i chwyddo, yn un sy’n fflachio neu’n un sy’n dirgrynu er mwyn i gymydog neu ddiffoddwr tân roi rhybudd i chi. 

 

Teclynnau Hysbysu Dirgrynol

Gall teclynnau hysbysu dirgrynol roi gwybod i bobl fyddar neu bobl â nam ar eu clyw fod argyfwng a bod angen iddynt adael yr adeilad. Gallant hefyd gael eu defnyddio i gyfathrebu â phobl eraill sy’n rhan o’r system cymorth i ddianc. Gellir defnyddio’r teclynnau i hysbysu pobl fod angen dianc a hefyd i ddweud wrthynt i ba gyfeiriad y dylent fynd.

 

Goleuadau sy’n fflachio

Mae angen i bobl â nam ar eu clyw neu bobl fyddar wybod bod pawb yn gadael yr adeilad. Pan fyddant yn debygol o fod ar eu pen eu hunain yn yr adeilad, mae’n bosibl y bydd angen darparu goleuadau sy’n fflachio neu ddyfais debyg. Os oes angen system o’r fath, holwch y person priodol a oes un ar gael yn yr adeilad. Os nad oes, bydd angen system gyfeillio addas. Efallai na fydd goleuadau sy’n fflachio yn briodol ymhob adeilad, er enghraifft pan fo goleuadau eraill yn gwrthdaro â’r goleuadau hyn.

 

Nam ar y Golwg

Colli’r golwg

Cymorth ychwanegol i bobl sydd â nam ar y golwg. Gall deall faint mae’r person wedi colli ei olwg a gwybod ble i gael cymorth ychwanegol sicrhau bod eich perthynas, ffrind neu gymydog yn ddiogel rhag tân yn ei gartref ac y byddai’n gwybod beth i’w wneud petai tân, megis dianc o’i gartref a ffonio 999.

 

Eich larymau mwg

Bydd larymau mwg cyffredin yn gweithio drwy wneud sŵn mawr pan fydd mwg yn cael ei ganfod, gan ddarparu rhybudd cynnar hollbwysig fod tân er mwyn helpu pobl i ddianc. 

  • Os ydych yn ddall neu os nad yw eich golwg yn gyflawn, mae ffyrdd ychwanegol o sicrhau y byddech yn gwybod bod tân yn eich cartref. Ystyriwch osod sticer lliwgar llachar ar eich larwm mwg fel ei fod yn haws i’w weld yn erbyn nenfwd gwyn.
  • Ystyriwch osod oleuadau strôb a phadiau dirgrynol. Bydd y systemau hyn yn gweithio yn yr un ffordd â larymau mwg eraill, ond bydd y goleuadau a’r dirgryniadau’n helpu i hysbysu’r preswyliwr. 

Rydym yn argymell eich bod yn gosod larwm mwg ar bob lefel o’ch cartref (gan osgoi’r gegin a’r ystafell ymolchi), a’ch bod yn gofyn i ffrind, aelod o’r teulu neu gymydog brofi eich larwm mwg bob wythnos. 

Byddwch yn barod – Ewch allan, arhoswch allan, ffoniwch 999

  • Gosodwch bethau defnyddiol ar hyd eich llwybrau dianc, a gwnewch yn siŵr eich bod yn teimlo’n gyfforddus yn eu defnyddio, hyd yn oed os byddwch wedi blino yng nghanol nos
  • Gwnewch yn siŵr fod pob drws a choridor yn cael ei gadw’n glir
  • Gwnewch gynllun B. Y drws ffrynt yw’r dewis cyntaf fel arfer, ond gwnewch gynllun B os bydd rhwystr ar gynllun A.
  • Dylai goriadau ar gyfer drysau a ffenestri gael eu cadw wrth yr allanfa ac o fewn cyrraedd
  • Hysbyswch bawb
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu deialu 999 ar eich ffôn llinell sefydlog neu eich ffôn symudol, gall marcwyr fod yn ddefnyddiol.
  • Gwnewch yn siŵr fod cloch eich drws ffrynt yn gweithio a’i bod yn un â’r sain wedi’i chwyddo neu’n un sy’n dirgrynu. Fel hynny, bydd cymydog neu ddiffoddwr tân yn gallu eich rhybuddio.
  • Gwiriwch y ceblau trydan yn rheolaidd drwy eu cyffwrdd pan fydd y plwg allan. Os byddant wedi rhaflo neu os oes nam arnynt, peidiwch â rhoi’r plwg i mewn na rhoi’r switsh ymlaen.
  • Os oes aroglau llosgi’n dod o’r offer trydanol, diffoddwch nhw a thynnu’r plwg allan ar unwaith.
  • Efallai y byddwch eisiau ystyried gosod dangosydd cyffwrdd ar hyd eich llwybr dianc fel ei bod yn haws i chi ganfod yr allanfa.

 

Cyfarpar arbenigol a chyngor i bobl ddall a rhannol ddall RNIB 0303 123 9999 www.rnib.org.uk

Cymorth i bobl sy’n ddall-fyddar Sense 0845 127 060 Ffôn testun: 0845 127 0062 www.sense.org.uk

Cyfarpar arbenigol a chyngor i bobl fyddar a phobl â nam ar eu clyw

Action on Hearing Loss 0808 808 0123 Ffôn testun: 0808 808 9000 SMS: 0780 0000360 www.actiononhearingloss.org.uk

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen